31/10/2008

Gwobr Hen Rech Flin

Pe bai'r Hen Rech Flin am wobrwyo, idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl, fel y mae Blog Menai yn awgrymu dylwn wneud byddwn yn enwebu'r post yma gan Flog Menai am urdd uchaf yr anrhydedd.

Oes yna unrhyw beth mwy idiotaidd nag aralleirio barn yr wyt yn anghytuno ag hi er mwyn ei bardduo, yn hytrach nag ymateb i'r ddadl graidd? A wnes i roi'r bai ar y cyfryngau am achosi ffliw'r adar neu am greu'r pwysau ariannol, fel mae Cai yn awgrymu? Naddo, yr hyn a ddywedais oedd bod y BBC ac eraill yn gyfrifol am greu panig gormodol parthed y pynciau. Mae nifer o arweinwyr busnes ac eglwysig wedi gwneud yr un sylw. Ond mae'n siŵr mae idiotiaid yw'r rhain hefyd gan nad ydynt yn cytuno a barn unllygeidiog Cai a'i blaid.

A ydy Madrwyddygryf yn idiot am wneud y sylw bod rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion yn gyfrifol am anfon Mark Williams AS i San Steffan, fel mae Cai yn honni? Wrth gwrs nad ydyw, mae o'n ddweud y gwir. Fe arhosodd rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion adref yn hytrach na phleidleisio i Blaid Cymru oherwydd ffrae'r maer, fe bleidleisiodd nifer o Gymry Cymraeg Ceredigion i bleidiau eraill yn hytrach na chefnogi'r Blaid, ac mae yna graig o draddodiad o gefnogi rhyddfrydiaeth ymysg rhai o ffermwyr Cymraeg Ceredigion. Idiot bydda'r dyn sydd yn credu bod modd adennill y sedd i'r Blaid heb geisio cael y Cymry Cymraeg hyn i bleidleisio i Blaid Cymru eto neu am y tro cyntaf.

Mae ceisio cysylltu barn Still a Liberal a fy marn i yn gwbl chwerthinllyd o idiotaidd. Mae hyn mor hurt â phe bawn i yn ceisio cysylltu barn Cai a sylwadau diweddaraf David Davies AS.

Ond y prif reswm am gynnig gwobr am idiotrwydd i Flog Menai yw oherwydd ei fod yn rhy idiotaidd i sylweddoli pa mor idiotaidd yw ei ddiffiniad o idiotrwydd, sef barn nad yw'n cytuno a hi, ond nad yw'r gallu ganddo i gynnig ateb rhesymol iddi.

28/10/2008

Y Gwir am Dr Tudur

Mae'r cyfaill Rhys Llwyd wrthi'n sgwennu hagiograffi o'r Dr Tudur Jones. Oherwydd ei oedran, cafodd Rhys mo'r cyfle o gyfarfod a thestun ei ymchwil. Yn anffodus ac, yn anffodus iawn, mi gefais i'r profiad trist o ddod ar draws y ffieiddyn.

Mae Rhys yn disgrifio Dr Tudur fel Efengylwr - twt lol botas - Enwadwr Cul Annibynia oedd Tudur.

Trwy driciau dan din fe orfododd Tudur ar i Gordon MacDonald, un o fawrion Wesleaeth Cymru, i ymadael a'i enwad er mwyn ffurfio eglwys efengylaidd annibynnol yn Aberystwyth, eglwys a ymosodwyd arni yn rheolaidd gan Tudur wedyn gan mae hen wesla oedd y gweinidog!

Enwad Seisnig fu'r Wesleaid yn draddodiadol. I ddod yn weinidog Wesla rhaid oedd cael hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn Lloegr mewn colegau megis Hansworth, ym Myrmigham.

Fel Cymro o genedlaetholwr am ddyfod yn weinidog Wesla cefais fy nanfon i Brifysgol Bangor ar gyfer fy hyfforddiant. Prawf bod modd dysgu gweinidog Wesla trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, yn ôl yr enwad.

Barn Tudur oedd bod caniatáu addysg Gymraeg i Wesla ym Mangor yr un fath a chanatau i Undodwr cael addysg grefyddol yn Aber, rhywbeth nad oedd ef am ganiatau. Cefais gwybod gan Tudur o'r ddiwrnod cyntaf nad oedd modd imi lwyddo. Cefais yr un sicrwydd o fethiant gan y Parch John o Goleg y Bedyddwyr. Pan adroddais yr enwadaeth ffiaidd yma yn ôl i fy mentor yn yr Eglwys Fethodistaidd y Parch Owie Evans, roedd o'n methu credu bod ei gyfeillion a'i frodyr yn gallu bod mor dan din, ei ddyfarniad oedd mai'n rhaid fy mod wedi cam ddeall eu sylwadau...!

Mi gefais fy niarddel o Brifysgol Bangor am fod yn anymwybodol trwy ddiod cyn codi ar gyfer ambell i ddarlith, am syrthio drosodd mewn ffwlbri meddwol yn ystod darlithoedd a mynychais, am fethu canolbwyntio ac am fod yn drafferthus.

Wedi fy niarddel cefais fy nghofrestru fel nyrs o dan hyfforddiant yn Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gwynedd. O fewn mis cefais fy nanfon i'r meddyg gan y tiwtoriaid am yr un symptomau a chofnodwyd yn y Brifysgol. Canfuwyd fy mod yn dioddef o glyw’r digwydd - Epilepsi. Cefais bob cymorth gan Ysgol Nyrsio Gwynedd i ddod i ben fy nghyfnod hyfforddiant, er gwaethaf fy anhwylustod. Cymorth nad oedd i'w dygymod yn adran Ysgol Duwinyddiaeth y Dr Tudur ym Mangor.

Mi gyfarfyddais a'r Dr Tudur ymhen y rhawg a son mae salwch, nid medd-dod oedd y broblem. Ei ymateb - Epilepsi - esgus Satan!

Coc oen, Rhys, nid Sant oedd Tudur!

25/10/2008

Harri Potter a'r Athro Poti

Mae The Half Blood Welshman yn tynnu sylw at gyhoeddiad diweddaraf Archesgob y Ffwndamentalwyr Seciwlar, Yr Athro Richard Dawkins. Mae'r athro am wneud ymchwil, yn ôl y Daily Telegraph, ar yr effaith andwyol mae llyfrau megis rhai Harry Potter yn cael ar blant. Gan nad yw'r hanesion am ddewiniaeth a hudoliaeth a adroddir yn llyfrau Harry Potter yn ffeithiol gywir mae'r hurtyn yn credu eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddatblygiad plant.

Pe bai agweddau anoddefgar Dawkins i unrhyw farn ond ei farn gyfyng ei hun ddim mor beryglus, bydda ei ddatganiad diweddar yn hollol chwerthinllyd. Nid yn unig yn chwerthinllyd ond yn rhagrithiol hefyd.

Mae'r gyfres Dr Who yr un mor anwyddonol ag ydy cyfres Harry Potter, os ydy ei wylio yn andwyol i blant mae'r sawl sydd yn actio yn y gyfres yn euog o greu niwed i blant. Pobl megis yr actores Lalla Ward a chwaraeodd rhan Roana, Arglwyddes Amser mewn sawl rifyn o'r gyfres beryglus anwyddonol. Enw arall Lalla Ward yw Yr Anrhydeddus Mrs Richard Dawkins.

Enw Go Iawn ac enw ar Flog.

Tua 1974 cefais wahoddiad i wneud sylw 30 eiliad ar raglen cerddoriaeth gyfoes gan HTV.

Gofynnwyd imi be oedd fy enw?

Alwyn Humphreys, meddwn, yn gwbl di niwed!

Na! Medda'r cyfarwyddwr, mewn panic llwyr, mae Alwyn Humphreys yn enw rhy bwysig ym myd cerddoriaeth go iawn - problemau enllib, rhaid i'r hogyn dewis enw arall.

Be di enw dy Dad? Gofynnodd Arfon Haines.

Hugh, meddwn i !

Alwyn ap Huw wyt ti ar y rhaglen medda fo. Ac Alwyn ap Huw yr wyf wedi bod, yn gyhoeddus, ers hynny! Ffug enw - David Alwyn Humphreys ydwyf go iawn, o hyd, wrth gwrs. Mrs Humphreys ydy'r wraig a Humphreys ydy cyfenwau'r plantos.

Ond y ffug enw sydd yn dweud mai fi di fi ac nid myfi yw arweinydd y côr!

Y Peth pwysicaf yw, mae trwy fy "ffug" enw yr wyf yn cael fy adnabod fel y fi go iawn, y ffug enw sydd yn dweud mai fi yw "fi" yn hytrach na dyn y corau.

Dyma paham yr wyf wedi fy nrysu'n llwyr parthed y dadleuon am onestrwydd enwau ar flogiau!

11/10/2008

Ie dros Gymru ar Facebook

Mae Jim Dunckley a finnau wedi cychwyn ymgyrch ar Facebook i ofyn am gefnogaeth i'r alwad am refferendwm ac i annog pleidlais IE yn yr ymgyrch.
Mae Cymru Gyntaf / Wales First yn grŵp allbleidiol sydd yn galw am bleidlais "IE" yn y refferendwm arfaethedig ar hawliau deddfu llawn i Gynulliad Cymru.
Ein bwriad yw defnyddio'r we i godi cefnogaeth boblogaidd dros Senedd i Gymru.
Mynnwn fod ein corff etholedig democrataidd cenedlaethol yn cael y grym i roi Cymru GYNTAF

Gan fod ymgyrch Na eisoes yn bodoli ac yn cael cyhoeddusrwydd eang er gwaetha'r ffaith nad oes ganddi ond hanner dwsin o aelodau, mae'n hanfodol bod ymgyrch Ie gref yn bodoli i'w gwrthwynebu.

Mae rhai o gefnogwyr datganoli yn gwangalonni ac yn amau os oes modd ennill ymgyrch refferendwm. Maent am ohirio ehangu grymoedd y Cynulliad dan boeni bydd refferendwm yn cael ei golli. Mae'n bwysig cael ymgyrch ar lawr gwlad i ddangos i'r gwangalon bod yna gefnogaeth a brwdfrydedd dros achos Ie.

Fe ddywedodd John Dixon cadeirydd y Blaid ychydig yn ôl bod yna beryglon yn perthyn i'r strategaeth wleidyddol swyddogol o ddisgwyl am gefnogaeth i gynyddu cyn dechrau ymgyrchu a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case.

Os ydych yn gefnogol i'r achos Ie mewn refferendwm ymunwch a'r grŵp ar facebook, gofynnwch i'ch cyfeillion i ymuno a dwedwch air bach o blaid yr ymgyrch ar eich lle ar y we, lle gwaith, tafarn lleol ac ati os gwelwch yn dda.

http://www.facebook.com/group.php?gid=40044911971

08/10/2008

Fine Gale ac Annibyniaeth i Gymru!

Mae gan Blog Menai post hynod ddiddorol sy'n cymharu ffawd Fine Gale yn yr Iwerddon ym 1948 a Phlaid Cymru yn 2008. Mae Cai (yr awdur) yn honni bod Fine Gale, trwy glymbleidio, ym 1948 wedi ei hachub rhag clwy’ etholiadol marwol ac wedi ei chynorthwyo i ddyfod yn un o'r chwaraewyr mwyaf yng ngem wleidyddol yr Ynys Werdd.

Mae Blog Menai yn awgrymu bod penderfyniad Plaid Cymru i glymbleidio a Llafur yn mynd i gael yr un effaith. (Oni fyddai'r Glymblaid Enfys a wrthodwyd gan y Blaid yn gymhariaeth decach i sefyllfa FG ym 1948?)

Y gwendid sylfaenol yn nadl Blog Menai yw'r gwahaniaeth rhwng sefyllfa gyfansoddiadol yr Iwerddon ym 1948 a sefyllfa gyfansoddiadol Cymru yn 2008. Roedd yr Iwerddon, i bob pwrpas, yn wlad annibynnol ym 1948. Mae Cymru heddiw yn parhau i fod yn rhan annatod o'r DU.

Os ydy Plaid Cymru yn ceisio fod yn fwy berthnasol i bobl Cymru trwy bwysleisio ei hochor gymdeithasol yn hytrach na'i hochor genedlaethol, be sy'n digwydd i'r achos cenedlaethol?

Dyma graidd anghytundeb Blog Menai a Blog yr Hen Rech Flin.

Ers imi ddilyn y fath bethau mae polau piniwn wedi dangos bod rhwng 8 a 13 y cant yn cefnogi annibyniaeth i Gymru. Hynny yw, o dderbyn y margins of error bondigrybwyll, mae'r gefnogaeth i annibyniaeth wedi bod yn sefydlog ar 10% ers pum mlynedd ar hugain a rhagor. Yn yr un cyfnod mae llwyddiant etholiadol Plaid Cymru wedi cynyddu (er gwaethaf ambell i siom) yn aruthrol.

Mae gan y Blaid llawer mwy o gynghorwyr rŵan nag oedd ganddi 25 mlynedd yn ôl a phresenoldeb ar y mwyafrif llethol o gynghorau sir. Mae'r Blaid bellach yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae gan y Blaid aelod weddol saff yn Senedd Ewrop a siawns go lew am ail un y flwyddyn nesaf. Bydd gan y Blaid (bron yn ddi-gwestiwn) mwy o ASau ar ôl yr etholiad San Steffan nesaf na fu ganddi yn ei hanes. Gyda lot o waith caled a joch go dda o lwc mae modd i'r Blaid treblu nifer ei gynrychiolwyr seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond pa ddiben yr holl lwyddiannau hyn os yw'r niferoedd sy'n cefnogi annibyniaeth yn aros yn eu hunfan?

I mi, byddid gweld y Blaid yn colli pob un sedd ar bob cyngor plwy a sir, yn y Cynulliad, San Steffan ac Ewrop ond gweld y nifer sy' bendant o blaid annibyniaeth yn dyblu yn fwy o arwydd llwyddiant na gweld y Blaid yn ennill pob un sedd etholedig yn y wlad a'r niferoedd sy'n cefnogi annibyniaeth yn aros yn ystyfnig yn ei unfan.

Diben y Blaid Genedlaethol yw ennill rhyddid i'n gwlad - nid enill etholiadau er mwyn enill etholiadau. Diben Plaid Cymru yw cael mwy o bobl i dderbyn achos annibyniaeth yn hytrach nag ennill mwy o bleidleisiau "cymdeithasol". Mae'r ystadegau yn awgrymu bod y glymblaid a Llafur wedi methu enill yr un enaid i'r achos. O ran achos y genedl, yn hytrach na llwyddiant y Blaid, mae'r glymblaid wedi bod yn fethiant llwyr.

07/10/2008

Edward Leigh a Iaith yr Iesu

Nid ydwyf yn un o ffans pennaf Edward Leigh AS. Mae o'n un o'r Ceidwadwyr yna sydd yn parhau i efengylu dros bolisïau mwyaf eithafol Thatcheriaeth. Ond ar flog yr eithafwyr Thatcheraidd, The Cornerstone Group, mae yna gopi o erthygl gan yr AS a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Catholic Herald.

Mae'n erthygl ddiddorol sydd yn son am un o effeithiau rhyfel Irac sydd ddim yn cael ei drafod yn aml; effaith y rhyfel ar gymdeithas Gristionogol Asyria. Mae'r Eglwys yn Asyria yn un bwysig o ran y traddodiad Cristionogol yn gyntaf gan mae hi yw ceidwad beddrod y proffwyd Nahum ac yn ail gan mae Asyriaid Ninefe yw'r bobl olaf i siarad yr Aramaeg, sef yr iaith pob dydd byddai'r Iesu yn ei ddefnyddio.