17/09/2008

Taro naw yn methu'r traw?

Roedd Rhaglen Taro Naw heno yn un hynod difir, ac yn codi pwynt werth ei hystyried: a ydy Addysg Gymraeg cyfoes yn mynd ar ol quantity yn hytrach na quality? (sori am yr idiom Saesneg)

Fe gafwyd crybwyll yn y ffilm agoriadol, ond nid yn y drafodaeth, o bwynt hynod bwysig yn y cyd-destun yma - bod safon Saesneg ambell i ddisgybl yn wan hefyd.

O wrando ar Saesneg llafar Saeson uniaith, rwyf o'r farn bod safon ieithyddol y mwyafrif mawr ohonynt yn gachlud, i ddweud y lleiaf. Yr hyn sy'n cadw safon yr iaith Saesneg yw'r lleiafrif o ddefnyddwyr safonol yr iaith.

Er nad ydwyf yn Gymro Cymraeg iaith gyntaf, rwy'n ddigon hen i gofio pobl oedd bron yn uniaith Gymraeg pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl, yn siarad Cymraeg gwan ar y naw. Onid dyma natur pob iaith? Bod safon y mwyafrif yn gachlud ac mae lleiafrif bach sydd yn "cynnal safon"?

Nid dewis rhwng niferoedd a safon mo frwydr yr iaith!

I gadw'r iaith yn fyw mae angen y ddwy - mae angen miloedd i siarad y Gymraeg yn wych neu'n wachul, ond mae angen cannoedd o Gymreigwyr da i gadw safon hefyd.

Sydd yn dod a fi yn ôl i'r post blaenorol - mae angen sicrhau bod canran dechau o arian dysgu'r Gymraeg i oedolion yn cael ei anelu at loywi Cymraeg siaradwyr naturiol a dysgwyr llwyddiannus yn hytrach na chael ei anelu yn ormodol at ddysgwyr o'r newydd yn unig!

A thra fy mod yn rantio ar y pwnc, dyma gais i'r Eisteddfod Genedlaethol - mae 'na gystadleuaeth ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn be am gystadleuaeth gyffelyb i Loywr y Flwyddyn hefyd?

Mae Clecs Cilgwri yn cynig barn amgen am y rhaglen

5 comments:

  1. Wrth gwrs bod 'na ganran helaeth o siaradwyr brodorol y Saesneg yn siarad iaith sathredig. Ond fe fyswn i'n tybio bod y ganran yn llawer is na'r ganran sydd yn siarad Cymraeg fratiog. Ac yn fwy arwyddocaol, mae disgwyl bod Saesneg gyhoeddus - hynny yw, Saesneg sydd yn cael ei chyhoeddi neu ei darlledu - yn berffaith gywir. Pam mor aml mae rhywun yn gweld fersiwn Saesneg o'r hyn y mae Golwg a Maes-e yn ei alw yn 'Sgymraeg'? Pam mor aml mae gwylwyr newyddion BBC 1 yn gorfod gwrando ar ohebydd yn adrodd ar stori gan ddefnyddio iaith cyfangwbl wallus? Pam mor aml mae athrawon Saesneg yn gorfod anwybyddu'r ffaith bod eu disgyblion yn methu rhaffu brawddeg Gymraeg at ei gilydd? Pam mor aml mae myfyrwyr prifysgol Saesneg yn gorfod mynychu 'Cwrs Gloywi Iaith' ar ddechrau eu gradd?

    ReplyDelete
  2. Dwi ddim yn meddwl bod safon y mwyafrif yn 'gachlyd' yn y lleiaf. Mae gan Gymry Cymraeg naturiol Gymraeg cyhyrog a da gan fwyaf, yn benodol y rhai mewn cymunedau Cymraeg. Ond os clywi'r Gymraeg mewn rhai o ysgolion De Cymru, mae'n warthus.

    Nid sathru ar waith yr ysgolion hynny dwi - maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol - ond ar ôl clywed "dwi'n cael gwaith cartref" (h.y. "I have homework") a "fi'n lico walko rownd y corner" a'i debyg gangwaith mae 'na rhywbeth yn sylfaenol anghywir.

    Bellach mae hyn yn broblem sy'n lledu fwyfwy i'r gorllewin hefyd.

    Y broblem gyda bratiaith yn Gymraeg yw mai geiriau a chystrawen Saesneg ydi hi. Mae hynny'n broblem ddifrifol sy'n tanseilio'r iaith yn gyfan gwbl.

    ReplyDelete
  3. Dw i ddim yn credu dy fod ti'n rantio nac yn tantro Hen Rech Flin; mae'r pwynt sy' gen ti yn un dilys y dylid ei drafod yn agored.
    Dw i o'r farn fod Cymraeg llafar y rhelyw o siaradwyr Cymraeg wedi gwella'n sylweddol dros y deugain mlynedd diwetha'. Ond os am gyfeirio'ch sylw at blant yna cyfeiriwch eich sylw at y Cwricwlwm Cenedlaethol felltith sydd yn gorfodi athrawon i ruthro'n ddiddiwedd i gasglu tystolaeth o weithgarwch eu disgyblion ar draws ystod eang o faesydd, heb adael dim amser iddynt feithrin sgiliau ieithyddol gadarn ymysg eu disgyblion.

    ReplyDelete
  4. Dydy problem Symraeg ddim yn broblem defnyddwyr y Gymraeg yn ysgrifennu Cymraeg sathredig ond broblem o bobl heb glem am yr iaith yn defnyddio peiriannau cyfieithu. Mae'r un broblem yn bodoli yn y Saesneg - fel y gwelir wrth geisio darllen cyfarwyddiadau ambell i declyn sydd wedi ei fewnforio o bendraw byd. Mae yna gwynion barhaus am Saesneg gwael hefyd. Yn wir un o lyfrau mwyaf poblogaidd dwy dair blynedd yn ôl oedd Eats, Shoots and Leaves - llyfr am Saesneg gyhoeddus sathredig.

    Mae'r Brifysgol Agored yn sicr yn cynnig cyrsiau gloywi Saesneg ysgrifenedig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ac yn annog pob myfyriwr newydd i ddilyn cwrs o'r fath fel man cychwyn astudio am radd agored.

    Rwy'n amau mae'r prif wahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ydy ein parodrwydd i gwyno am Gymraeg sathredig wrth dderbyn Saesneg gwan. Mae hyn yn ei thro yn creu diffyg hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig ymysg canran o siaradwyr Cymraeg naturiol. Mae'r diffyg hyder yma yn ei thro yn lleihau'r defnydd o Gymraeg gyhoeddus dderbyniol. Yn achlysurol byddwyf yn codi neges i hen gymdoges, dynes nad ydwyf wedi torri gair o Saesneg llafar a hi er imi ei hadnabod. Yn y Saesneg bydd hi'n ysgrifennu ei neges siopa "rhag ofn gwneud camgymeriad yn y Gymraeg". Cymraes Cymraeg sydd yn anllythrennog yn ei hiaith gyntaf oherwydd diffyg hyder! Rwy'n gwybod am lawer o Gymry Cymraeg sydd heb gynnig am swyddi y maent yn gymwys i'w gwneud lle mae "gwybodaeth o'r Gymraeg" yn gymhwyster, oherwydd yr ofn bod eu Cymraeg ddim yn ddigon da - ofn defnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith rhag ofn i rywun beirniadu safon eu hiaith.

    Wrth gwrs bod safon yn bwysig. Mae angen nifer o berffeithyddion ar yr iaith, ond mae gymaint o angen i bobl siarad Cymraeg pob dydd hefyd yn ôl eu safonau eu hunain boed da, boed drwg boed gwarthus. Wrth ddefnyddio iaith mae safon yn gwella nid wrth beidio â'i ddefnyddio trwy ofn a diffyg hyder. Dyma paham fy mod yn credu yn gryf bod angen gwario gymaint ar loywi iaith a magu hyder siaradwyr cyfredol ac sydd i ddysgu'r Gymraeg o'r newydd i bobl sydd uniaith Saesneg ar hyn o bryd.

    ReplyDelete
  5. Anonymous1:12 am

    Cytuno efo Dyfrig fod hi'n bwysig cael Cymraeg cyhoeddus cywir a chyson.
    Ond faint o blant sy'n cael eu troi o'r Gymraeg oherwydd bobol cul sy'n lladd ar safon eu hiaith? Hawdd beirniadu o'r tyrrau ifori neu o'r Fro ond mae'n dipyn anoddach meithrin Cymry Cymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg (dwi 6 milltir o'r ffin) a lle mae 90% y plant mewn ysgolion Cymraeg yn dod o aelwydydd di-Gymraeg.
    Does na fawr ddim Cymraeg naturiol i'w glywed ar y stryd, dydi S4C na Radio Cymru ddim yn rhan o fywyd bob dydd plant.
    Mae mhlant i'n 11 ac 8 ac yn medru'r ddwy iaith ond Saesneg mae nhw'n siarad efo'i gilydd. Saesneg mae nhw'n siarad efo'u ffrindiau. Mae nhw'n tro o'r Gymraeg i'r Saesneg ac yn ol eto mewn brawddeg.
    Faswn i'n hapusach tyswn ni ddim ond dyna di natur cymdeithas ddwy-ieithog - derbyniwch y ffaith.
    Pan fyddan nhw'n hyn, fydd ganddyn nhw'r blociau crai ieithyddol. Dwi mond yn gobeithio y byddan nhw'n eu defnyddio nhw.

    ReplyDelete