30/09/2008

Plaid Siomedigaeth nid Blaid Chwerwedd

Yr wyf wedi adnabod y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ers dyddiau ein plentyndod. Yr oeddwn yn adnabod, ac yn parchu, ei dad a'i fam. Yr oeddwn yn mynychu'r Ysgol Sul efo ei ddiweddar wraig a Glyn, ei dad yng nghyfraith, oedd y dylanwad unigol all-deuluol pwysicaf ar fy mywyd yn ystod fy nglaslencyndod. Nid oes gennyf unrhyw awydd, na diddordeb, mewn cefnogi unrhyw sen ar ei enw da. Mae Dyfrig yn ddyn da, mae o wedi rhoi oes o wasanaeth i'w gwlad ac mae o'n gynghorydd didwyll a diwyd.

Wedi dweud hynny yr wyf yn credu bod rhai o ymosodiadau Cai Larson ar Lais Gwynedd parthed sen honedig a wnaed yn erbyn Dyfrig gan Gwilym Euros yn methu pwynt sylfaenol. Sef pam bod pobl yng Ngwynedd wedi dewis ethol 13 o gynghorwyr Llais Gwynedd i wrthwynebu Plaid Cymru.

Mae Cai yn honni mae Casineb at y Blaid a Chwerwedd at y Blaid sydd wedi arwain at fodolaeth a chefnogaeth i Lais - mae hyn yn gwbl anghywir. Siomedigaeth yw'r teimlad pwysicaf.

Mae fy nhad wedi pleidleisio i Blaid Cymru ers y pumdegau cynnar, ers y tro cyntaf iddo gael pleidleisio wedi ei Wasanaeth Cenedlaethol.

Dydy dad erioed wedi bod yn amlwg yn y Blaid, ond mae o wedi bod yn driw. Ar ôl i Dafydd El ennill yn '74 fy nhad wnaeth cymoni a pheintio swyddfa etholaeth gynta’r Blaid er mwyn troi'r twll o le rhataf roedd y Blaid yn gallu fforddio i ymddangos fel lle eithaf dechau i AS barchus cynnal wasanaeth etholaethol ynddo!

Cafodd fy nhad hartan ar ddiwrnod etholiad cyngor yn yr wythdegau. Roedd o'n gwrthod mynd yn yr ambiwlans oni bai ei fod yn stopio wrth y bwth pleidleisio er mwyn iddo gael bwrw ei bleidlais olaf dros y Blaid cyn mynd ar ei ffordd i'r ysbyty i farw. Diolch byth nid farw bu ei ran, ac y mae o wedi cael cyfleoedd lawer i bleidleisio o blaid y Blaid mewn sawl etholiad ers hynny.

Ym mis Mai, yn 75 oed, fe bleidleisiodd fy nhad yn erbyn Plaid Cymru am y tro cyntaf yn ei fywyd! Roedd o'n torri ei galon o deimlo ei fod wedi ei orfodi i'r fath sefyllfa. Fe roddodd ei gefnogaeth i Lais Gwynedd oherwydd ei fod wedi ei siomi yn arw bod Plaid Cymru, o bob plaid, wedi penderfynu amddifadu ei or-wyrion ac wyresau rhag addysg Gymraeg leol wych o'r radd flaenaf.

Yn bersonol yr wyf wedi fy siomi efo Plaid Cymru ers rai blynyddoedd. Fy siomedigaeth fwyaf yw diffyg brwdfrydedd y Blaid dros gefnogi achos annibyniaeth a'i chwilfrydedd o blaid Sosialaeth Brydeinig.

Mae rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd, Alwyn Gruffudd, Gwilym Euros, Seimon Glyn, Now Gwynys ac ati wedi bod yn graig i'r achos cenedlaethol ers blynyddoedd. Nid casineb tuag at achos y genedl sydd wedi troi'r fath bobl yn erbyn y Blaid, na chwerwedd personol. Bydda bob un ohonynt yn falch o fod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Cymru.

Y gwir amdani yw bod Plaid Cymru wedi colli ei ffordd, wedi anghofio ei sylfaen ac wedi siomi rhai o'i gefnogwyr gwresocaf a mwyaf brwd. Yn hytrach na galw'r cefnogwyr yna'n enllibwyr dan din sur, fel mai Cai yn gwneud, llesach i'r Blaid byddid syrthio ar fai, a cheisio cael y siomedig yn ôl i'r babell, cyn i Lais Gwynedd cael ei droi yn Llais Cymru Gyfan!

7 comments:

  1. Annwyl Alwyn,

    O'r diwedd.....mae na rhywun wedi taro'r hoelen yn blwmp ac yn blaen ar ei phen!
    Does gennyf ddim amser, awydd nac ymynedd i gasau neb...mi ddaru Cai ddod ar mater yma o gasineb i'r fai cyn yr etholiad ar Faes-e ac mi ddaru mi dweud wrtho adeg hynny nad oedd hynny yn wir amdnaf. Dwi ddim yn cytuno ac o nac ychwaith Rhydian Fon James ar rhai pethau ac dwi wedi ceisio bod yn gwrtais boed hynny dros y ffon neu drwy e-bost pob tro i ddal pen rheswm a hwy. Mae'n rhaid i ni dderbyn fod lle i farn gwahanol ar rhai pethau(dyfodol ein cymunedu gwledig e.e.) ac bod rhai ohonom am fentro i gynnig syniadau gwahanol ar sut mae mynd ar maen i'r wal...yn yr un modd ni ddylem fod ofn cytuno a chydweitho pan ac os mae cyfleoedd hynny yn codi ond drwy ddweud tro ar ol tro mai casineb sydd yn gyrru un carfan penodol, yna llai tebygol yw hi y bydd y garfan honno yn barod i gydweithio. Mae pobl Gwynedd yn haeddu gwell ac yn mynnu gwell ac hyd yma mae genai ofn nad yw Plaid Cymru wedi dysgu gwersi o'r etholiad ym mis Mai eleni yng Ngwynedd.

    ReplyDelete
  2. Nid yw yn arfer gennyf ymateb i Flogiau, ond efall bod hurtni llwyr dy flog diweddaraf wedi bod yn sbardun i mi wneud o hyn allan.

    ‘Rwyt yn cesio dweud mai grwp o genedlaetholwyr sydd yn poeni am ddyfodol Cymru yw Llais Gwynedd. Grwp o bobl yw rhain sydd yn dangos y rhinweddau mwyaf asgell dde yn ein cymdeithas, sef bod eu pwysigrwydd personol hwy yn bwysicach na unrhyw achos. Mae gennyt yn ei plith cyn-gynghorydd Llafur ac amryw o grwpiau gwleidyddol arall, unrhyw grwp mewn gwirionedd nad sydd yn fygythiad personol iddo ef. Cyn gynghorydd anibynnol o Dwyfor a ymgeisiodd dros Plaid Cymru pan oedd yn ofni buasai peidio gwneud hynny yn golygu colli ei sedd. Cyn-ymgeisyddion am ymgeisyddiaeth Plaid Cymru i’r Cynulliad, a surodd yn llwyr pan wrthododd aelodau cyffredin Plaid Cymru ei ymgeisyddiaeth. Mewn geiriau eraill mae rhain i gyd yn bobl sydd wedi dod at ei gilydd am un rheswm, eu bod wedi methu dod ymlaen gyda grwpiau eraill, a cyn diwedd eu bywyd mae un peth yn sicr byddent yn saff o ymuno a grwpiau eraill. Maent wedi llwyddo mewn un peth ac un peth yn unig, sef cael y bleidlais wrth Blaid Cymru i ymuno a’i gilydd bod hynny yn ymgeiswyr, neu yn bleidleiswyr.

    Do fe bleidleisiodd ychydig o genedlaetholwyr i Lais Gwynedd yn mis Mai, ond mae llawer ohonynt bellach yn dechrau gweld trwy eu celwyddau a’u enllibiadau parhaus. A yw dy dad er enghraifft yn gyfforddus ei fod wedi pleidleisio dros yr un Plaid a rhai o bobl mwyaf gwrth-gymreig yn Ngwynedd?

    Beth yw barn Llais Gwynedd am ddatblygu Marina Pwllheli, neu hyd yn oed Anibynniaeth i Gymru. Mae’r rhwygiadau, a’r diffyg goddefgarwch at ei gilydd yn dechrau ymddangos, ac ni fu yn cymeryd llawer eto i’r bobl hunan bwysig yma chwalu i bob cyfeiriad.

    Do fe gostiodd y strategaeth ysgolion seddi i Plaid Cymru, ond mae’r diffyg strategaeth ar hyn o bryn yn costio yn ddrytach i’n plant, yn ein cymunedau gwledig a threfol,yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

    ReplyDelete
  3. Diolch am dy sylwadau Cnicht. Maent yn drewi o'r trahauster a achosodd i Blaid Cymru colli seddi yng Ngwynedd ym mis Mai. Yn hytrach na derbyn bod y Blaid wedi gwneud camgymeriadau, yn hytrach na derbyn bod cefnogwyr triw wedi eu siomi, yr wyt yn gwrthod derbyn unrhyw fai ac yn ymateb yn sarhaus i unrhyw feirniadaeth. Dydy dy agwedd dim yn un sydd yn debygol o ennill y rhai a dadrithiwyd yn ôl.

    ReplyDelete
  4. Dwi'n cefnogi Alwyn a Gwilym yma.

    Plaid Cymru yw ateb cenedlaetholgar y Cymry (yn ôl sôn) sydd i fod i apelio at cenedlaetholwyr o bob dras a daliad gwleidyddol. Wel, dene be fyse'n gwneud y mwyaf o synwyr gan fod cenedlaetholwyr asgell-dde a chwith. Ond fel mae Cnicht yn awgrymu, rhywbeth negyddol yw fod yn asgell-dde, waeth i mi beidio pleidleisio dros Plaid Cymru eto felly.

    I'r mwyafrif o bleidleiswyr neu fi a nifer fawr, pleidlais i'r Blaid yw un o obaith, gan mai nhw yw'r unig Blaid sydd wirioneddol yn cefnogi unrhyw obeithio cenedlaetholgar - unwaith eto, yn ôl sôn. Nid oes dewis arall. Ydwi wirioneddol isio rhoi fy mhleidlais i'r Ceidwadwyr neu Llafur. Dim ar hyn o bryd.

    Ond eto dyle Plaid Cymru ddim meddwl na nhw bia fy mhleidlais. Dim o gwbwl. Does neb yn gwneud. Os na ydwyf yn teimlo bod unrhyw blaid yn haeddianol, mi wnai ei roi i'r un sydd lleiaf tebygol o gyrraedd rhywle, fel nad ydwyf yn wastio fy mhleidlais.

    Mae'r un egwyddor yn perthyn i'r etholiad sydd newydd fod yng Ngwynedd. Yn meddwl na nhw sydd a'r hawl i bleidlais pawb. Yn debyg iawn i George Bush a rhyfel Iraq "You're either with us or against us."

    Fel mae Cnicht hefyd wedi deud, mae etholwyr yn cychwyn gweld trwy gelwyddau Llais Gwynedd. Am be sydd i boeni? Neith pobol gofio am y dywediad "if it aint broke, don't fix it", gwneith les i achos Blaid Cymru wrth i bobol sylwi'r camgymeriad maent wedi ei wneud, a pheidio a'i wneud eto.

    Fel arfer mewn chwaraeon, os mae rhywun yn colli maent y
    unai'n ymddeol, neu yn gwneud y peth naturiol sef newid eu tactegau, gweithio ar eu gwendidau a cheisio dod yn ôl yn gryfach nac erioed.

    Yr etholwyr a roddodd Llais Gwynedd ble mae nhw rwan, paid a beio nhw achos ma'r Blaid yn dibynnu cymaint arnynt a mwy am hyd yn oed eu bodolaeth!

    Ma'r pwdu ma'n pathetig!

    ReplyDelete
  5. Anonymous12:09 am

    Llais Gwynedd ydi'r peth gorau sydd wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ers blynyddoedd. Mae Llais Gwynedd wedi rhoi dewis yn y bwth pleidleisio i genedlaetholwyr, ac nid oes ond gobeithio yr eiff eu hymgyrch o nerth i nerth. Daliwch ati, hogiau!

    ReplyDelete
  6. Anonymous9:44 pm

    Does dim rhaid edrych ymhellach na ward Abersoch i weld gwir liwiau Llais Gwynedd.Sais rhonc wrth gymreig dros Ll-G yn herio cynghorydd y Blaid, sydd hefyd yn angor i hyny o gymreictod sydd yn weddill yn y pentref.Pe tasai'r ymgeisydd Ll-G wwdi ennill yma ,sgwn i beth fuasai iaith y pwyllgorau a cyfraniad ganddo wedi bod?Mi fysa'r pentref wedi saesnegeiddio dros nos-diolch i lais Gwynedd.
    Dyna pam mae 'r fath atgasedd,mae methiant arweinwyr y blaid ar gyngor gwynedd i'w groesawy.Gwynt teg ar ol pefras a DI ar ol y llanast nathon nhw ond peidied neb a meddwl fod Ll-g yn rwbath blaw "opportunists" di egwyddor-tydyn nhw ddim ! Pan aiff pethau'n dynn yr unig beth fydd ganddynt yw'r don gron o fod wrth Blaid Cymru a beio'r blaid am bopeth, a chwarae i ddwylo gelynion Cymru a'r gymraeg.

    ReplyDelete
  7. Cigfran, dim ots be di gwir liwiau Llais Gwynedd rŵan. Cyn yr etholiad yr oedd Plaid Cymru wedi methu ei phobol, a rŵan mae'r etholwyr yn ceisio i edrych am ddewis arall mewn gobaith o ffindio rhywun neu rhywbeth wneith ddim siomi.

    ReplyDelete