02/09/2008

Lle mae'r Fangre bellach?

Blwyddyn yn ôl roedd bron i bob tŷ tafarn a siop yng Nghymru yn arddangos arwydd, o dan deddf dim smygu'r Cynulliad, yn mynegi'r ffaith bod Ysmygu yn y Fangre Hon yn Erbyn y Gyfraith!

Fy nealltwriaeth oedd bod y ddeddf yn erbyn ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yn un Gymreig, a bod yr arwydd awdurdodedig y mae'n rhaid ei arddangos, o dan y ddeddf, yn arwydd ddwyieithog.

Wrth deithio drwy Gymru yn ystod gwyliau'r haf yr wyf wedi sylwi bod nifer o lefydd wedi hepgor arwyddion dwyieithog swyddogol y Cynulliad bellach ac wedi eu cyfnewid am rai uniaith Saesneg corfforaethol.

Ydy arwyddion uniaith Saesneg Marstons, Punch, Spar ac Asda yn gyfreithiol yng Nghymru? Oes lle inni gwyno i'r awdurdodau bod y cwmnïau hyn, ac eraill, yn tramgwyddo'r ddeddf trwy beidio ag arddangos yr arwyddion dwyieithog priodol o dan y ddeddf mwyach?

1 comment:

  1. Dw i heb sylwi ar hyn fy hun, ond gallaf gredu ei fod yn digwydd.

    Dw i ddimyn gweld dim o'i le ar gwyno i'r awdurdodau am hyn, wedi'r cyfan, dyma'r unig ddeddf 'iaith' ble mae awdurdadau'n debygol o weithredu drosto mae'n siwr.

    Gan nad oedd y posteri tila'n cyd-fynd a delwedd slic rhai 'fangreoedd' (a'i dyna yw'r lluosog?), roedd yn braf gweld cwmnaiu fel Brains (am unwaith!) yn cynhyrchu eu harwyddion parhaol dwyieithog eu hunain.

    ReplyDelete