01/08/2008

Llefarwch fy mlog!

Wrth wenu dan ei fys,
Fe gododd Rhys Wynne ffỳs,
Am wobr hael am flogiad gwael,
Wedi ei ddyfarnu gan Ddogfael.

Mae'r flogodliad uchod yn cyfeirio at bost gan Gwenu dan Fysiau sy'n son am gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cynnig gwobr o £200 am ysgrifennu blog. Fel mae nifer wedi dweud yn y sylwadau i gofnod Rhys, mae yna rywbeth od ar y naw am gofnod blog sydd ddim ar y we. Yr hyn sydd yn gwneud post ar flog yn bost ar flog yw ei lleoliad ar y we. Heb fod ar y we mae'n gofnod dyddiadur, llythyr i olygydd y Cymro neu ddarn cyffredin o lenyddiaeth. Fel mae Nic yn nodi Mae blog heb HTML fel englyn heb gynghanedd.

Rwyf wedi sylwi ar gystadlaethau tebyg mewn eisteddfodau blaenorol, yn gofyn am dudalennau we sydd ddim i'w cyhoeddi ar y we er mwyn eu cadw yn ddienw ac yn anhysbys cyn y feirniadaeth. Wrth chwilio trwy restr testunau Eisteddfod y Bala 2009 roeddwn yn hanner ddisgwyl cystadleuaeth am dudalen Facebook nad wyt yn cael son amdani wrth dy ffrindiau rhag torri amodau'r ŵyl.

Cefais hyd i rywbeth llawer llawer gwell yn y rhestr testunau, sef cystadleuaeth rhif 122 Darllen Blog Amser rhwng 3 a 5 munud Gwobrau 1 £60; 2 £30, 3 £20.

Byddai'n anrhydedd mawr pe dewiswyd erthygl o'r blog yma fel un i'w adrodd ar lwyfan yr Eisteddfod, felly mae'n rhaid imi godi fy mhyst i safon gwerth eu llefaru. Dyma sydd i gyfrif am y flogodliad cychwynnol:

Fel bod y cystadleuwyr fel un dyn
Yn dewis darllen o flog yr Hen Rech Flin.

I ddod yn fuan:
Telyneg am broblemau bins Sir Conwy
Soned i ymryson DI ac Elfyn am lywyddiaeth y Blaid
Cywydd i ymadawiad Brown o'r brif weinidogaeth (wedi ei osod ar gainc Alwyn o'r Blog Wen - rhag ofn bod yr Ŵyl Gerdd Dant am ddilyn arweiniad yr Eisteddfod.)

7 comments:

  1. Wrth wenu dan ei fys,
    Fe gododd Rhys Wynne ffỳs,
    Am wobr hael am flogiad gwael,
    Wedi ei ddyfarnu gan Ddogfael.

    Wel Alwyn, dyw'r rhigwm 'na ddim yn odli odi fe. Dyw fys a ffys - wel, i'm clust i, dyn nhw ddim yn odli!

    Walla bod rhinweddau cynghaneddol yndo'n rhywle - ond wi'm yn diall y pethach 'na :-)

    ReplyDelete
  2. Ymdrech dda HRF , ond yn fwy debyg i gerdd cocos amwni ;)
    Cystadleuaeth Darllen Blog ar gyfer 'Steddfod Y Bala ? Diddorol iawn ...rhaid i ni gyd godi'r safon rwan !:)

    ReplyDelete
  3. Rwyf wedi cael cam, gan Ceri Grafu a Linda!

    Campwaith barddonol yw fy rhigwm - ym mhen blwyddyn bydd coron yr Eisteddfod ar fy mhen a chadair yr eisteddfod dan fy nhin - a phobl yn llefaru fy mlog hefyd!

    Cenfigen pur, gan nad yw eich blogiau chi yn llenyddflogiadau aruchel fel fy mlog innau, sydd wrth wraidd y fath gwenwyn, bid siŵr!

    ReplyDelete
  4. Walla na 'naiff Linda na finna gipio’r goron ‘na odd’ ar dy ben na’r gadar ‘na o dan dy din, ond o leiaf ma’r ddou o’n ni’n diall bod treiglo ar ôl 'y fath' – boed y gair hwnna’n fenywaidd ne’n wrywaidd (Gramadeg y Gymraeg tud 207) – a sdim lot o bobol yn gwpod hwnna!!!

    Cenfigen - ia, walla bo ti'n iawn ond cer i grafu er hynny (a phob lwc iti yn y Bala) :-)

    ReplyDelete
  5. Byger - Cysill wedi methu eto!

    Mae gennyf alergedd yn erbyn treiglo, rwy'n gwrthwynebydd cydwybodol.

    Cysill sydd yn gyfrifol am bob treiglad neu gam dreiglad ar y bog 'ma. Os welwch gam dreiglad yma, danfoner nodyn am fethiant y rhaglen i Ganolfan Bedwyr.

    Ond er gwaethaf pawb a phopeth, mae'n rhaid iti gydnabod mae dyma'r flog mwyaf llengar yn y byd, ar unig un sydd a'r haeddiant i gael ei ddefnyddio ar gyfer cystadleuaeth 122 yn y Bala!

    ReplyDelete
  6. Cysill sydd yn gyfrifol am bob treiglad neu gam dreiglad ar y bog 'ma

    Y BOG ma'n wir! Y Blog ma!

    Amser rhoi'r gwaddol lawr y sinc
    Cyn i'r wraig 'cw gicio'n nhin yn binc*

    *Yn ddulas rwy'n meddwl ond bod o ddim yn odli"

    Dyna ddrwg barddoniaeth, rhaid dweud be sy'n odli neu'n cynganeddu yn hytrach na deud hi fel y mae!

    ReplyDelete
  7. Ti wedi cael cam yn wir Alwyn. Mae'r busnes darllen blog wedyn yn mynd a phethau i lefel o dwpdra.

    ReplyDelete