18/07/2008

Mwgyn da'r methiant

Mae rhai yn credu mai jôc pen tymor ydyw, hwyl fach ddiniwed. Rwy'n anghytuno!

Mae'n debyg bod Rhodri Glyn wedi ei daflu allan o dafarn yng Nghaerdydd nos Fawrth am danio sigarét neu sigâr yn y bar.

Deddf gan y Cynulliad yw'r ddeddf dim smygu mewn tafarn. Deddf a gefnogwyd gan Blaid Cymru, deddf yr oedd y Blaid yn cwyno yn groch amdani dwy flynedd cyn ei basio gan nad oedd gan y Cynulliad yr hawl i'w basio ar y pryd.

Mae'n ddeddf yr wyf yn ei gefnogi, tra'n ddeall ei fod wedi pechu ambell un oedd yn arfer mwynhau mygyn gyda pheint. Mae'r ffaith bod un o aelodau amlycaf plaid a oedd yn hynod gefnogol i'r ddadl dros wahardd ysmygu mewn tafarnau wedi ei ddal yn ei hanwybyddu yn achos o embaras dirfawr, dydy o ddim yn jôc.

Rhodri Glyn yw'r gweinidog sydd wedi torri addewid y Blaid i greu papur dyddiol. Yr un sydd wedi torri'r addewid am Goleg Ffederal. Yr un sydd wedi methu cael LCO Deddf Iaith, a'r un gwnaeth ffŵl o'i hun a'i wlad yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn. Bellach mae o wedi ategu at yr embaras trwy ysmygu mewn tŷ tafarn wedi iddo bleidleisio o blaid gwahardd ysmygu mewn tai tafarnau!

Mae'r gwron yn fethiant ac yn embaras, mae angen adrefnu mainc blaen y Blaid. Mae'n rhaid gollwng y ffŵl!



English Version

2 comments:

  1. Ew ty'd laen Rhech, wn i cystal â neb bod RhGT y tu hwnt i iwsles fel gweinidog, ond a fyddai o WIR mor dwp a smygu mewn bar neu dafarn? Dyn ag wyr, mae o ynddyn nhw ddigon i wybod peidio o be dwi'n ddallt...

    ReplyDelete
  2. Oce, chdi'n sy'n iawn!

    ReplyDelete