01/06/2008

Protest Eisteddfodol

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu i gloi wythnos Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy yng Nghapel Seion, Llanrwst heno. Aeth tua 800 o eisteddfodwyr i'r gymanfa. Yr wyf wedi cyfeirio at Gapel Seion, Llanrwst mewn post blaenorol.

Dyma'r capel a benderfynodd wneud tenant tŷ’r capel yn ddigartref dros gyfnod y Nadolig llynedd.

Heddiw aeth y cyn denant ati i gynnal protest am ei gamdriniaeth, wrth i bobl cyrraedd Seion ar gyfer y gymanfa. Er bod protest eisteddfodol yn rhan o draddodiad Cymru bellach, dyma gredaf yw'r tro cyntaf i brotest cael ei gynnal mewn cymanfa ganu. Cafodd Myfyr, y cyn denant, cefnogaeth a chroeso cynnes gan y rhan fwyaf o'r cymanfawyr.

Dyma rhai lluniau o'r brotest un dyn.


Galwyd yr heddlu gan un o'r blaenoriaid i geisio atal y brotest.




Hywel Gwynfryn yn holi Myfyr am ei brotest.


"Hen Flaenoriaid Creulon Cas yn Mynd i Seion heb ddim gras ac yn troi tenant y ty capel allan o'i gartref - dyna ichi gristionogion" yw'r geiriad ar y bwrdd.

4 comments:

  1. Fe holais dro yn ôl i boblach dwi'n adnabod sy'n ymwneud a'r capel yma am yr helynt yma. Ac a bod yn deg gyda'r capel HRF dim ond un ochr o'r stori yr wyt ti yn ei roi.

    ReplyDelete
  2. Ti yn llygad dy le Rhys, dim ond un ochor o'r stori sy'n cael ei gynnig yma ac yn y post blaenorol. Blog personol sydd ar y safle yma nid newyddiaduraeth ddiduedd.

    Mae perffaith ryddid i gefnogwyr y capel i osod eu hochor hwy yn y sylwadau. Rwy'n gwybod bod rhai o swyddogion y capel wedi darllen y post blaenorol ac wedi ymateb yn chwyrn amdani ar lafar, ond eto wedi dewis peidio i gywiro unrhyw cam gymeriadau yn y post na cham dehongli haonedig o'r ffeithiau.

    Pam? Os ydy'r stori, fel yr wyf yn ei adrodd, mor gyfeiliornus byddwn wedi disgwyl i'r sawl sy'n honni iddynt gael cam i ymateb.

    Rwy'n sylwi nad wyt ti wedi dewis rhoi ochor y capel yn dy sylw chwaith, dim ond cwyno fy mod i ddim yn ddiduedd. A'i oherwydd dy fod di yn wynebu'r un anawsterau ac ydwyf fi parthed ochor y capel?

    Sef bod y rhesymau sy'n cael eu rhoi ar lafar (ond nid mewn llythyrau cyfreithiol) gan rhai o swyddogion y capel am wneud Myfyr yn di gartref yn:
    Enllibus os nad ydynt yn wir
    ac
    Yn groes i ddeddfau cyfartaledd os ydynt yn wir

    ReplyDelete
  3. dwi heb adrodd ochr y capel oherwydd fod sawl wythnos (os nad misoedd?) wedi pasio ers i mi glywed y stori a dwi jest ddim yn cofio beth ddudon nhw! Ond dwi YN cofio mod i wedi tymheru fy ngwylltineg tuag at swyddogion y capel ar ôl clywed eu hachos nhw. Fe hola i fy nghyfaill eto pan wela i ef.

    ReplyDelete
  4. Gyda llaw, a fydd cyfweliad am y saga ar DCDC neu jest gair wrth basio heibio cafodd Hywel Gwynfryn gyda Myfyr?

    ReplyDelete