11/06/2008

Cyflwr yr Undeb

Llongyfarchiadau i Sanddef af ei flog Cyflwr yr Undeb. Dyma enghraifft o fyd y blogiau yn cynnig gwasanaeth unigryw sydd ddim ar gael gan y cyfryngau traddodiadol, sef adroddiadau rheolaidd trwy lygad Cymro o'r pethau pwysig sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

3 comments:

  1. Anonymous3:42 am

    Diolch am y sylw!

    ReplyDelete
  2. Er mod i'n croesawu Cyflwr yr Undeb, dwi'n anghytuno efo Alwyn bod hwn yn rhywbeth sydd yn unigryw. Ers rhifyn Mai, mae Barn wedi bod yn rhedeg colofn 'O Ewrop' sydd yn cynnwys crynodeb o straeon yn ymwneud a'r Undeb Ewropeaidd, wedi eu hysgrifennu gan Dafydd ab Iago, Cymro Cymraeg sydd yn gweithio ym Mrwsel fel gohebydd llawrydd ar faterion Ewropeaidd.

    ReplyDelete
  3. Anonymous11:12 pm

    dwi'n anghytuno efo Alwyn bod hwn yn rhywbeth sydd yn unigryw

    Dw'i'n credu bod Alwyn yn cyfeirio at yr hyn sydd ar gael ar-lein. A'r broblem efo crynodebau misol ydy eu bod yn delio â hen newyddion erbyn iddyn nhw gyrraedd y silff.

    ReplyDelete