16/05/2008

Pethau sy'n mynd dan fy nghroen #2

Yn ôl arwyddion ar draws y plwy 'ma, ceir ddirwy o fil o bunnoedd am ganiatáu i gi baeddu mewn lle cyhoeddus, os na chodir y cac gan berchennog y ci.

Rheol dda, mae baw ci yn ych ac yn ffiaidd. Mae baw ceffyl yr un mor ych ac yr un mor ffiaidd â baw ci, ond bod lwmpyn y ceffyl tua dengwaith mwy na chynnyrch ci bach.

Prin y gwelir baw ci ar y lon tu allan i'r tŷ 'ma, gan fod ceidwaid cŵn yn cadw at y rheolau ac yn codi pob cachiad. Ond mae'r lon yn drewi o gachu ceffylau.

O roi dirwy i berchennog ci am beidio a glanhau baw ar ôl yr anifail, oni ddylid rhoi mwy o ddirwy i berchenogion ceffylau am ganiatáu i'w hanifeiliaid hwy baeddu heb i'r perchenogion glanhau ar eu holau?

3 comments:

  1. Nesh i flogio am hyn unwaith dwi'n cofio! Yn cytuno, gyda llaw ... cachu ci, cachu cath...

    ReplyDelete
  2. Anonymous6:16 pm

    ie...cytuno a siarad cachu 'fyd. Dirwy o gan punt i ti HRF yn y fan a'r lle.

    ReplyDelete
  3. Rhaid mi ddweud nad yw cachu ceffyl yn arogli mor ffiaid a chachu ci, ac er mod i'n gweld mynd a ceffyl ar ffordd foawr yn beth di-angen, dwi erioed wedi gweld cachu ceffyl ar bafin - gas gen i sathru mewn baw ci. Mae yna rhyw ddiawl yn gadael i gi/chi fawan reit tu allan i'm tŷ i.

    ReplyDelete