28/05/2008

Efo Ffrindiau fel hyn....

Pob tro y bydd Radio Cymru neu S4C yn chwilio am lais i siarad dros Gristionogaeth Gymreig, maen nhw'n galw ar y Parch Aled Edwards OBE, prif weithredwr CYTÛN

Bron yn ddieithriad bydd Aled yn lladd ar yr Efengyl Gristionogol draddodiadol ac yn ochri gyda'r anghredinwyr a'r sawl sydd am blygu glin i Bâl, o dan y camargraff bod eangfrydiaeth a chynhwysedd yn rhinweddau Cristionogol, a bod Na fydded iti dduwiau eraill ger fy mron i yn syniad cyfyng hen ffasiwn.

Pe na bai hynny yn ddigon drwg, fe ymddengys bod Aled yn casáu ei gyd Cristionogion gymaint, fel ei fod am ymarfer defodau'r grefydd Fwdw yn eu herbyn; yn parchu ymgais Herod i ladd y Crist trwy lofruddio plant bach diniwed ac yn cydymdeimlo a thrais Nero yn erbyn yr eglwys fore. Ac mae ganddo fwy o barch at gyd gefnogwyr Man U, na sydd ganddo tuag at ei gyd Gristionogion.

Efo dyn o'r math yn brif lais cydweithrediad yr eglwysi Cymreig a oes syndod bod capeli yn cau?

Gyda llaw nid enllib yn erbyn y dyn yw'r sylwadau hyn, dim ond ail adrodd yr hyn y mae o wedi cyfaddef ar ei flog!

2 comments:

  1. Hmm.

    Diolch am dynu fy sylw at y blog mwyaf idiotaidd yng Nghymru (oni bai am ymdrech drist Martin Eaglestone wrth gwrs).

    ReplyDelete
  2. Diolch am hyn HRF - dwi'n reit hoff o Aled fel dyn, dwi'n cael ymwneud ag ef yn waith braf a buddiol. Fyddai wrth fy modd gyda'r ateb e yn 'steddfod bob tro: "Sut wyt ti Aled?" Aled: "Pechadurus diolch yn fawr iawn!". Ond rwy'n derbyn dy bwynt fod y blogiad yr wyt yn tynnu sylw ato efallai yn mynd un cam rhy bell.

    Does dim o'i le ar feirniadaeth adeiladol o Gristnogaeth a Christnogaeth oblegid ffurf ar hunan-feirniadaeth ydyw mewn gwirionedd. Dwi wedi fy nghyhuddo yn ddiweddar ar fy mlog i o fod yn llawdrwm a di-ras wrth drafod agweddau o waith Martyn Lloyd-Jones er enghriafft ond dwi'n hyderus fod y blogiad yn ddilys oherwydd mod i'n rhesymu fy meirniadaeth mewn modd resymol ac adeiladol. O ddarllen blogiad penodol Aled yn yr achos yma does dim esboniad na rhesymeg yn cael ei roi i'w ddadl ac felly dydy e'n ddim byd mwy na rant.

    Ond dwi'n hyderu mae "moment wan" oedd honno ac nad yw'n gynrhychioliadol o Aled yn gyffredinol.

    ReplyDelete