15/02/2008

Tyngu Llw Cymraeg

Mae gan y North Wales Weekly News, papur wythnosol arfordir y Gogledd, colofn o bytiau bach difyr o'r enw The Insider, colofn debyg i Jac Codi Baw yn Golwg. Yn ei golofn ddyddiedig Chwefror 14 eleni mae'r colofnydd yn nodi bod ymchwil wedi ei wneud i ddefnydd y Gymraeg gan reithgorau yn Llys y Goron Caernarfon. Canlyniad yr ymchwil oedd mai dim ond 9 aelod o 8 rheithgor (cyfanswm o 96 o aelodau) wedi dewis cymryd y llw yn y Gymraeg. (Yn anffodus does dim modd cael hyd i ddolen i'r golofn nac unrhyw ffynhonnell arall i'r stori)

Caernarfon yw'r dref Gymreiciaf yng Nghymru sydd yn cynnal Llys y Goron, er rhaid nodi bod dalgylch y llys yn eang ac yn cynnwys rhai ardaloedd lle mae'r iaith ar ei wanaf . Yn ôl cyfrifiad mae 55% o bobl yn nalgylch y llys yn rhugl yn y Gymraeg a nifer mwy yn gallu rhywfaint o'r Gymraeg.

Gan mae dim ond darllen brawddeg oddi ar gerdyn sydd raid gwneud i dyngu'r llw, prin fod angen rhugledd arbennig yn y Gymraeg ar gyfer y gorchwyl. Os yw adroddiad yr Insider yn gywir mae'r ffaith mae dim ond tua deg y cant o reithwyr Llys y Goron Caernarfon yn dewis defnyddio’r Gymraeg ar gyfer tyngu yn siomedig o isel.

Er fy mod wedi methu cael hyd i ffynhonnell sy'n cadarnhau stori'r Insider, mae ei honiad yn adlewyrchu ymchwil a wnaed llynedd gan Cheryl Thomas a Nigle Balmer ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder a oedd yn edrych ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ar reithgorau.

Yn ôl Thomas a Balmer siaradwyr Cymraeg yw'r unig leiafrif sydd ddim i'w gweld yn cael eu cynrychioli yn deg ar reithgorau. Yn nalgylch Llys y Goron Caernarfon honnodd 55% o'r boblogaeth eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001, ond yng nghyfnod ymchwil Thomas & Balmer dim ond 32% o'r rheithwyr oedd yn honni eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae casgliad yr ymchwiliad am y gwahaniaeth yma yn un diddorol.

The census shows that 16.5% of the population in Wales speaks, reads and writes Welsh. However, as Figure 4.31 below shows, this is not reflected in the proportion of those summoned for jury service for Welsh courts who declared that they were fluent in Welsh (6.4%). It may well be that when asked to declare whether they were fluent when there may have been a possibility of having to perform an official function using the Welsh language (jury service), the respondents were less optimistic (or perhaps more realistic) about their level of proficiency in Welsh.


Mae'r anfodlonrwydd yma sydd gan Gymry Cymraeg cynhenid i ddefnyddio'r Gymraeg yn llawer mwy o fygythiad i'r iaith nac ydy'r mewnlifiad. Mae taclo'r broblem yma yn bwysicach na ddeddf iaith, papur dyddiol a choleg ffederal er mwyn sicrhau parhad yr iaith. Mae'n rhaid rhoi pwysau ar Rhodri Glyn i noddi ymchwil drylwyr i ganfod pam bod yna ffasiwn anfodlonrwydd i ddefnyddio'r Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid ac i geisio ffurf i oresgyn y broblem.

1 comment:

  1. Ffigyrau siomedig unwaith eto. O ran diddordeb oedd yna rhwyfath o gyd-destyn i gyhoeddi'r niferoedd?

    Cefais fy ngalw i eistedd ar reithgor haf diwethaf yng Nghaerdydd am y tro cyntaf. Eisteddais ar ddau achos llys, un ble fi oedd yr unig siaradwr Cymraeg ac un arall ble roedd y dau ohonom. Dyma'r ddau ohonom yn cymeryd ein llw yn Gymraeg.
    Ac efallai o ddiddordeb i ti, fi oedd yr unig un ar y ddau achlysur i beidio tynnu llw ar feibl - rhywbeth a fy synnodd.

    Fel gyda pob interaction gyda'r awdurdodau, bues yn meddwl o flaen llaw pa gyfleoddd fyddai gyda fi i ddefnyddio'r Gymraeg. Daeth y ffurflen o lundain yn ddwyieithog a danfonias y darn Cymraeg yn ôl.

    Synnais nad oedd cwestiwn ar y ffurflen hyn yn gofyn â oeddwn yn siarad Cymraeg, felly dwi ddim yn deall sut allai llysiedd Gogledd Cymru fod wedi rhoi'r datgelu'r manylion hyn, gan fod popeth yn cael ei weini o Lundian.

    Roedd y llythyr oedd rhaid i mi ddanfon i'm cyflogwr yn uniaith Saesneg, felly bu rhaid i mi ffonio'r swyddfa yn Llundain i ofyn am un Cymraeg, ac fe ddaeth un yn syth o'r llys yng Nghaerdydd.

    Doedd dim cylfe arall i mi ddefnyddio fy Nghymraeg hyd y gwela i - doedd dim modd trafod yr achos yn Gymraeg wrth reswm am nad oedd neb arall yn siarad yr iaith.

    ReplyDelete