26/02/2008

Ffon Bagl Grantiau

Tua dwy flynedd yn ôl dechreuodd fan y Royal Banc of Scotland parcio tu allan i'r tŷ 'cw am awron neu ddau bob pnawn Gwener. Eu dewis lle oedd y lle mae'r wraig yn arfer parcio ei char. Roedd deiliaid fan y RBS yn gwneud dim ond bwyta brechdanau ac yn yfed te o fflasg yn ystod eu hoe yn lle parcio ni.

Dyma gwyno:

A oes raid i bobl yr RBS parcio yn lle ni o hyd o hyd i fwyta eu brechdanau?

Oes! Daeth yr ateb. Nid parcio i fwyta eu brechdanau ydynt, ond parcio er cynnig gwasanaeth bancio gwledig, dan nawdd grantiau Ewropeaidd y Cynulliad!

Gwych! Rwy'n fodlon ildio'r lle parcio am gynllun mor glodwiw!

Ond eto, deunaw mis ar ôl yr eglurhad does neb wedi mynd at y cerbyd i dderbyn gwasanaeth bancio gwledig, a does neb o'r cerbyd wedi dod ataf fi i, na neb arall yn y stryd, i ddweud pa wasanaethau bancio gwledig sydd ar gael!

Mae'n ymddangos imi mae ffug wasanaeth, er mwyn ennill grant yn unig, sy'n cael ei gynnig gan fan yr RBS, nid gwasanaeth gwledig go iawn. Ac mae'n rhaid gofyn: be di diben miliynau o bunnoedd o nawdd Ewropeaidd Amcan Un, os mae sioe, a lle panned a brechdan yw eu hunig ganlyniadau, yn hytrach na rhywbeth sydd yn hybu gwasanaethau gwledig go iawn?

Onid oes gormod o ddiwylliant grantiau er mwyn grantiau yng Nghymru bellach, yn hytrach na diwylliant grantiau er wella Cymru go iawn?

Grant am Eisteddfod, grant am bapur newyddion, grant am lyfrau, grant am fan i sefyll yn stond tu allan i dŷ'r Hen Rech Flin - be di'r gwahaniaeth?

Os ydy Cymru a'r Gymraeg am lwyddo mae'n rhaid iddynt sefyll ar eu dwy droed, ac o ddefnyddio grantiau, eu defnyddio fel modd i osod yr hen wlad ar ei draed yn hytrach na'u defnyddio fel ffon bagl o esgus am dlodi a dibyniaeth barhaus!

1 comment:

  1. Swnio'n wallgo. Dwi'n gweithio i Fenter Iaith, felly'n rhan o'r diwylliant grantiau yma, yn yn dechrau cael digon ohono. Es ar gwrs cyfrifiadurol un diwrnod, ble roedd pobl o wahnol asiantaethau yno. Ariannwyd y cwrs felly ni gostiodd geiniog i felly, ond beth synnodd fi oedd bod cinio bwffe i bawb a fynychwyd. Cynhaliwyd y cwrs yn Nhredegar Newydd sy'n ardal tlawd uffernol, ond roedd y mynychwyr i gyd yn ddosbarth canol fel fi - pobl a allai fod wedi'n hawdd a fforddio cinio i ni'n hunain. Mae'n ymddangos bod brechdannau yn chwarae rhan amlwg wrth wario arian Ewropeaidd.

    ReplyDelete