27/02/2007

Proffwydo Canlyniadau Mai

Mae eraill wedi bod wrthi'n ceisio proffwydo canlyniadau etholiad mis Mai, yr wyf am ymuno yn yr hwyl.

Yr ymgeiswyr annibynnol. Colli 1 (1)
Rwy'n rhagweld bydd John Mareck yn gadw ei sedd yn Wrecsam ond bydd Trish Law yn colli ym Mlaenau Gwent. Prin bydd obeithion Ron Davies yng Nghaerffili a Llais y Bobl yn Nhorfaen.

Mae pobl sydd yn hanu o Wlad Pwyl yn ddigon newydd i'r cysyniad o ddemocratiaeth i weld pleidleisio fel dyletswydd bwysig. Mae yna gymuned gref o Bwyliaid yn Wrecsam ac mae Mareck wedi bod yn cwrsio’i bleidlais gydag arddeliad. Bydd y bleidlais Bwylaidd yn ddigon i'w achub wrth groen ei din. Mae Trish Law wedi bod yn AC digon dderbyniol i'w hetholaeth, ond bydd dau ffactor yn ei herbyn ym mis Mai. Y cyntaf yw bod Pleidwyr, Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr wedi benthig pleidlais iddi hi a'i diweddar ŵr ar ddau achlysur a byddent yn awyddus i ddychwelyd i'w hen deyrngarwch bellach. Yn ail, ac yn bwysicach, mae'r cyhoeddusrwydd gwael sydd wedi bod i weithgarwch siomedig Dai Davies yn San Steffan yn mynd i yrru rhai o gefnogwyr Mrs Law yn ôl i Lafur.

Y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Ennill 2 (8)
Rwy'n methu gweld y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ennill unrhyw sedd etholaeth ychwanegol. Wedi helyntion yr AS lleol mae yna berygl y byddant yn colli Maldwyn i'r Ceidwadwyr, ond ar y cyfan rwy'n credu bydd Mick Bates yn crafu ei ffordd yn ôl i'r Senedd o drwch blewyn.
Mae gan y Lib Dems rhywfaint o obaith cynyddu eu nifer o aelodau rhestr o bedwar aelod ychwanegol os ydy'r Ceidwadwyr yn wneud yn dda yn yr etholaethau, ond yr wyf am gyfaddawdu a rhoi dau aelod rhestr ychwanegol iddynt

Y Blaid Geidwadol. Ennill 1 (12)
Dyma'r blaid anoddaf i ddarogan eu canlyniad. Ar hyn o bryd mae 10 o'r 11 sedd Geidwadol yn seddi rhestr. Mae'n ddiamheuaeth bydd llawer mwy na'u un bresennol yn cipio seddi etholaeth ym mis Mai, yr anhawster yw darogan sut effaith bydd hyn yn cael ar y seddi rhestr.

O wneud yn eithriadol dda mae naw sedd etholaeth o fewn eu gafael ac o'u hennill gallasant colli pedwar sedd rhestr, sydd yn rhoi cyfanswm o ddim ond 13 sedd iddynt. Bydd ennill wyth sedd etholaeth ychwanegol i'r Ceidwadwyr yn ganlyniad gwych i'r blaid, ond bydd gwychder y canlyniad ddim yn cael ei hadlewyrchu yn nifer eu seddi.

Rwy'n amau, ta waeth na fydd y Ceidwadwyr yn ennill pob un o'u seddi targed, bydd ambell un yn cael ei golli o drwch blewyn, ond bydd y Ceidwadwyr yn colli o leiaf dwy sedd rhestr i'r Blaid Lafur. Rwy'n darogan noson "academaidd" wych i'r Ceidwadwyr ar noson y cyfrif, ond "ymarferol" gwael efo dim ond un sedd ychwanegol.

Plaid Cymru Ennill 7 (19)
Dwi ddim yn rhagweld y Blaid yn colli sedd etholaethol (er mae cael a chael bydd hi i gadw Môn rhag y Torïaid). Bydd yn bosibl i'r Blaid ennill Aberconwy, ond rwy'n dueddol o gredu mai'r Torïaid bydd yn fuddugol yno; gwobr gysur bydd cael Wigley o'r rhestr yn lle Gareth Jones o'r etholaeth Y Blaid bydd yn curo yn Llanelli, ond fel yn achos 1999 bydd Llafur yn enill sedd rhestr a'r Ceidwadwtr yn colli un. Yn gyffredinol Plaid Cymru ydy'r unig blaid sydd a'r gallu i gynyddu nifer o'i aelodau rhestr a'i haelodau etholaethol, ac rwy'n rhagweld mae dyma fydd yn digwydd. Bydd Cwm Cynnon a Chaerffili yn syrthio i'r Blaid ac o leiaf dwy sedd arall yn y cymoedd diwydiannol, ond bydd y Blaid hefyd yn ennill dwy sedd rhestr ychwanegol. Cynnydd o ddeuddeg i pedwar ar bymtheg i'r Blaid felly.

Y Blaid Lafur Colli 9 (20)
Mi fydd yn noson wael i'r Blaid Lafur ond gan fy mod eisoes wedi darogan pwy fydd yn enill 40 o'r seddi, dim ond swm sydd ei agen ar gyfer y Blaid Lafur 60-40 = 20

Dyma broffwydoliaeth yr HRF:
Llafur 20; Plaid Cymru 19; Ceidwadwyr 12; Rhydd Dem 8; Annibynwyr 1.


English version of this post:Miserable Old Fart: Assembly Election Predictions

23/02/2007

Hen Wlad Fy Mamau


Fel nifer o genedlaetholwyr Cymreig, nid ydwyf yn Gymro Pur. Mae fy ach wedi ei fritho ag enwau anghymreig megis Purcell, Smallman, Crump ac ati. O ran ach yr wyf yn gymaint o Sais ag ydwyf o Gymro. O ran y lle yr wyf yn teimlo bod fy nghocsen fach yn ffitio i mewn i drefn y byd yr wyf yn Gymro diamheuaeth.

Oherwydd yr ach a chysylltiadau eraill yr wyf yn eithaf hoff o Loegr, ac yn teimlo yn fwy blin nag arfer wrth glywed Cenedlaetholwyr Cymreig yn lladd ar Hen Wlad fy Mamau.

Rwy'n cefnogi annibyniaeth i Loegr, rwy'n cefnogi hawl bobl Lloegr i chware eu rhan fel un o genhedloedd y byd, rwy'n cefnogi hawl bobl Lloegr, yn rhydd o hualau Cymru a'r Alban, i benderfynu eu cwrs eu hunain.

Rhaid rhoi hoelen ar ben y dadl sydd yn honni bod Cenedlaetholwyr Cymreig yn wrth-Seisnig. Nac ydym! Ni ydy'r rhai sydd yn cefnogi hawliau'r Saeson.

Y gwrth Seisnig yw'r gwrth Cymreig. Cefnogwyr y farn unoliaeth sy ddim yn caniatáu rhyddid i Gymro na Sais.

An English version of this post is at:
Miserable Old Fart: The Land of my Mothers

22/02/2007

BNP & Liberal Democrats

Yn ôl ym mis Rhagfyr bu cyfarfod o Gyngor Bwrdeistref Burnley yn Swydd Caerhirfryn. Un o ddyletswyddau'r cynghorwyr oedd ethol cynrychiolydd ar gorff allanol. Ymgeisiodd dau am y swydd, y Cyng. Gauton o'r Blaid Lafur a'r Cyng. Wilkinson o'r BNP. Er gwaethaf pob condemnio ar y BNP gan y cyfan o'r prif bleidiau, penderfynodd dau o gynghorwyr Plaid y Rhyddfrydwyr Democrataidd i gefnogi'r ymgeisydd BNP.

Wedi i gynghorydd Llafur ysgrifennu llythyr i'r papur lleol i gwyno am gefnogaeth y Lib Dems i'r BNP, cafwyd ymateb gan un o'r Rhyddfrydwyr yn cyfiawnhau ei benderfyniad ar y sail bod:
The Lib Dems are, by their very name, liberal-minded and democratic. We vote how we think the needs of the people are best-served. Mae'n amlwg bod ambell i Lib Dem yn credu bod anghenon y bobl yn cael eu gwasanaethu gorau gan Ffasgwyr!

Rwy'n derbyn bod yna ffyliaid ym mhob plaid ac annheg yw condemnio plaid gyfan oherwydd gweithgareddau'r ffyliaid. Ond yr hyn sydd yn syndod, ac yn adlewyrchiad ar y Blaid y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ei gyfanrwydd yw'r ffaith bod y ddau gynghorydd yn parhau i fod yn gynghorwyr swyddogol eu plaid. Does dim son am eu diarddel na'u disgyblu mewn unrhyw fodd. Does dim gair o gondemniad am eu hymddygiad wedi dod gan unrhyw aelod blaenllaw o'r blaid.

An English version of this post is availiable on Miserable Old Fart: BNP & Liberal Democrats

Post Cyntaf First Post

Yr wyf wedi cael cwynion fy mod yn Blogio heb gynnal Blog.

Yr unig reswm imi agor cyfrif blog oedd er mwyn ymateb i rai o sylwadau hurt yr oeddwn yn gweld ar flogiau pobl llawer pwysicach na fi.

Prin fod gennyf ddim byd pwysig na gwreiddiol i ddweud. Ond mae'n debyg bod blogwyr profiadol yn dymuno talu'r pwyth yn ôl trwy bostio sylwadau cas ar wefan a olygwyd gennyf innau - dyma greu cyfle iddynt, yn unol â'u dymuniad.

Dyma fo yr wyf wedi agor post cyntaf, wedi agor y porth i eraill cael dweud eu dweud ar safle fi. Rhaid imi grafu fy mhen bellach i feddwl am rywbeth i ddweud ar y safle yma.

Cwestiwn i'r rhai mwy profiadol. Blog dwyieithog efo pob post wedi ei gyfieithu ar un dudalen? Neu dau flog un yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg? Be sydd orau?


I have had complaints that I Blog without Blogging myself

The only reason why I opened a Blogger account was in order to respond to points made by people of greater importance than me.

I doubt that I have much to say that is either important or original. But the keepers of the important blogs think that they should have the opportunity to pay me back by posting nasty comment about me on a site that I edit - here is their opportunity! I must now scratch my head to think of something worth saying on this site.

If I may ask a question of the experienced. What is best? One bilingual site, with all my posts translated on the same page? Or two Blogs one in Welsh and the other in English?