09/12/2007

Rwy’n Licio Stroberis a Chrîm ac yn Hoffi Mefus a Hufen

Dros bymtheg mlynedd ar hugain yn ôl, bellach, cafodd perthynas annwyl imi gais gan HTV i wneud darn nodwedd am bysgota cimychiaid o borthladd y Bermo ar gyfer Y Dydd a Report Wales.

Dyn uniaith Gymraeg, i bob pwrpas ymarferol ydoedd. Cymro coeth a chywir ei Gymraeg, yn gynefin a phob ymadrodd traddodiadol Cymraeg oedd yn perthyn i'r diwydiant pysgota cimychiaid, ac yn un o'r olaf i ddefnyddio'r fath ymadroddion yn naturiol didrafferth.

Roedd o'n siaradwr Saesneg gwan a thrwsgl, efo acen josginaidd ac yn swnio fath a thwpsyn yn ei estroniaeth. Er gwaethaf hyn, roedd o'n fodlon digon i wneud y rhaglen yn y Saesneg ond yn poeni nad oedd ei Gymraeg yn ddigon dda ar gyfer Y Dydd.

Roedd fy niweddar Fam yng nghyfraith yn Gymraes rugl, yn siarad y Gymraeg yn naturiol fel y siaradwyd hi yng ngwaelodion Dyffryn Conwy am ganrifoedd. Ond, o ddeall bod ei merch yn canlyn pregethwr, o bob peth, yn penderfynu bod rhaid iddi siarad Saesneg yn fy nghwmni gan nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da i'w defnyddio o flaen pregethwr! Er gwaetha'r ffaith mae chwarter Sais, Cymraeg ail iaith, oedd y pregethwr dan sylw.

Mae diffyg hyder Cymry Cymraeg i siarad Cymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy o fygythiad i ddyfodol yr iaith nag ydy'r mewnlifiad, o bell ffordd.

Mae'n bwysig i ymgyrch yr iaith bod y syniad o Gymraeg diffygiol yn cael ei ddifa. Mae siarad Cymraeg yn bwysicach na siarad Cymraeg cywir. Gwell yw dweud rwy’n licio stroberis a chrîm na throi i'r Saesneg!

Ond mae cadw safonau ieithyddol yn bwysig hefyd, os am gadw'r iaith Gymraeg yn fyw mae'n rhaid wrth gywirdeb iaith. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr y Gymraeg cyhoeddus bod yn ramadegol cywir eu Cymraeg. Mae rhaid i Vaughan Roderick, Bethan Gwanas, Gerallt Lloyd Owen ac ati Hoffi Mefus a Hufen yn hytrach na stroberis a chrîm!.

Ond dyma'r cyfyng gyngor: Lle mae'r we yn ffitio i mewn i'r ddadl cywirdeb iaith?

Wrth ddanfon y post 'ma rwyf yn ei gyhoeddi (ei chyhoeddi?) yn yr iaith Gymraeg, os gyhoeddi mae'n rhaid sicrhau bod y cyhoeddiad yn parchu holl reolau'r iaith. Does dim gwahaniaeth rhwng cyhoeddi yn gyhoeddus yma na chyhoeddi ar Garreg Gwalch neu Lolfa.

Ond ar y llaw arall ai cyhoeddiad, neu sgwrs ar lein yw blog? Fi'n dymuno dweud fy neud fel dwi'n dweud o yma, boed yn ramadegol gywir neu ddim; ond a oes gennyf hawl i wneud hynny heb y sicrwydd bod fy Nghymraeg yn swyddogol digon dda?

Ydy’r ymateb yma i'r post yma yn deg?

3 comments:

  1. Anonymous12:17 pm

    Ew! Son am fethu magu synnwyr o hiwmor!! Sylwer ar y ffaith nad wyt ti byth wedi gadael sylwad ar fy mlog Cymraeg o'r blaen!!!! Son am aros am reswm i gwyno cyn wneud hynny!!!!! Siaradwr Cymraeg arall wedi ei rybuddio i beidio â mynegi hiwmor ynglyn ag iaith gan fod ffasgydd ieithyddol yn dweud wrtho bod hynny yn ffasgaidd!!!!!!

    Get a life, Alwyn

    Oh, a gyda llaw, os ti'n mynd i hafan y blog ac yn clicio ar "sylwadau" ti yn gallu darllen y sylwadau, felly llai o'r cwyno (hypocritaidd) am ryddid barn, plis ;)

    ReplyDelete
  2. Holl bwrpas dy bost ar eclectig oedd dangos bys at Martin a dweud Mae Cymraeg y boi 'ma'n cachu - Ha! Ha! Ha!. Am himor!

    Pwrpas y post uchod ydoedd enghreifftio pa mor ddihyder yw Cymry Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus, ac i fynegi pryder bod y fath diffyg hyder yn niweidio'r iaith.

    Wyt ti'n amau geirwiredd yr hyn a ddywedwyd?

    Wyt ti, wir yr, yn credu bod tynnu sylw at safon Cymraeg salw unigolyn (ac unigolyn ydy Martin, nid corfforaeth) yn llesol i ddyfodol yr iaith?

    O.N. Sylwaf fod dy flog wedi blodeuo yn dilyn fy nghwyno hypocritaidd :-)

    ReplyDelete
  3. Anonymous4:55 am

    Y cyd-destun ydy Cymdeithas Cledwyn ac anallu rhywun sy'n cymryd rhan o'r "brosiect" 'na i sillafu 'Cymru' yn iawn. Yn enwedig pan fo'r "rhywun" yna yn Martin Eaglestone.

    ReplyDelete