01/09/2007

Yr Hen Newyddion Diflas

Mae Arch-Gwynwr Cymru, Gwilym Owen, yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Cymro bod newyddion S4C wedi aros yn ei hunfan er dechreuad y Sianel.

Gan fod 60% o'r newyddion heno yn ymwneud a digwyddiad a fu deng mlynedd yn ôl (marwolaeth hogan ddibwys), hwyrach bod gan yr hen rech blinach na fûm i erioed pwynt dilys!

5 comments:

  1. Dyw'r hen Wilym ddim mewn sefyllfa gref iawn i gwyno am bethau sy ddim yn newid dros y blynyddoedd, nag yw?

    ReplyDelete
  2. Anonymous3:03 pm

    Dw'i'n tueddu i ddiystyru barn unigolion sydd o ran eu hymddangosiad yn debyg i ET

    ReplyDelete
  3. Anonymous12:03 am

    "marwolaeth hogan ddibwys" - y twpsyn twpach na thwp! Oni wyddost fod cael Ordovicus ar d'ochr megis cusan angau!

    ReplyDelete
  4. Anonymous3:22 am

    Oni wyddost fod cael Ordovicus ar d'ochr megis cusan angau!

    Ti'n meddwl am Lembit Opik, achan.
    Pwy dwedodd y canlynol ar y pumed o fis Ebrill eleni?

    Labour & Plaid Cymru: The only realistic outcome. Yes, I am being serious. The next Dirprwy Brif Weinidog will be a member of Plaid Cymru.


    Ateb: Fi

    ;-)

    ReplyDelete
  5. Meddai Dienw: Ordovicus ar d'ochr megis cusan angau

    Ordovicus ar fy ochor i? Ers pryd?

    Dau flogiwr annibynnol ein barn ydy Ordo a finnau, yn cytuno weithiau ac yn anghytuno weithiau, ond yn mynegi ein hanghytundeb, pan fydd, gan ddefnyddio dadleuon amgenach na'r plentynnaidd tynnu tafodau a deud pethau mor ansylweddol â ti'n dwp ti! Twpach na thwp!"!

    ReplyDelete