13/09/2007

Yr ateb i 'Luned

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol roedd Eluned Morgan yn pryderu am y ffaith bod cyn lleied o bobl Cymraeg eu hiaith yn cefnogi'r Blaid Lafur bellach. O dan nawdd Cymdeithas Cledwyn mae hi, Meri Huws (cyn Cadeirydd CyIG) ac Alun Davies AC am gynnal gweithgor ymchwil i geisio'r rhesymau pam bod y Cymry Cymraeg yn ymwrthod a Llafur.

Rwy’n' awgrymu bod Eluned a'i gweithgor yn holi Dave Collins, ymgeisydd Cyngor ar gyfer y Blaid Lafur ac un sy'n cael ei gyflogi gan Lafur yn y Cynulliad, er mwyn cael hyd i'r ateb.

Dyma farn Dave Collins am ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion:

Compulsory Welsh may also diminish young pupils enthusiasm for education and their confidence in their ability to master a subject. You cannot successfully teach a practically brain dead language to young children whose families don't want it revived or couldn't care less about it. It can only be dulling for them. Yet the education system is trying to do just that, under the ridiculous premise that everyone should be adopting a "Welsh identity" - and the obnoxious premise that they should be compelled to.

A oes rhaid i Eluned, Meri ac Alun ymchwilio ymhellach am y rheswm pam bod gymaint o Gymry Cymraeg yn casáu'r Blaid Lafur?

DIWEDDARIAD

Mae blog Keir Hardley bellach wedi ei ddileu. Ond mae sylwadau hurt Dave Collins i'w gweld o hyd mewn post ar flog Martin (lle gwnaed y sylwadau yn wreiddiol)

3 comments:

  1. Anonymous9:26 am

    Pwynt da

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:01 pm

    Diolch am gofnodi dyfyniad Dave Collins. Ers yr erthygl yn y Daily post bore heddiw, mae tudalennau blog Dave Collins a Keir Hardly wedi diflannu. Rhyfedd de?

    ReplyDelete
  3. Mae copi cadw 'da Google o hyd.

    ReplyDelete