06/09/2007

Yr Ateb i Dlodi - Sioe Max Boyce?

Mae canran o'r arian Amcan Un sydd wedi ei roi gan y Gymuned Ewropeaidd er mwyn tynnu ardaloedd tlotaf Cymru allan o dlodi wedi ei gyfeirio at gynllun o'r enw "Cymunedau'n Gyntaf". Ond rwy'n methu gweld sut mae rhoi tocynnau rhad i weld cyngerdd gan Max Boyce o dan cynllun Cymunedau'n Gyntaf, yn cyfrannu tuag at dynnu Cymru allan o dlodi.

Rwy'n llongyfarch Max Boyce ar ei haelioni, personol, unigol o ganiatáu i fwy na'r nifer cyffredin a byddai'n manteisio ar gynllun Cymunedau'n Gyntaf i gael gweld ei sioe yn rhad.

Rwy'n siŵr bod y sioe yn wych (fel bydd pob un o sioeau Max) ond, a ydy Caernarfon yn gyfoethocach - yn ystyr wir fwriad Amcan Un - oherwydd bod cymaint o dlodion y dref wedi gweld sioe Max?

Gweler Hefyd:
Martin yn dwyn y clod am haelioni Max, fel cefnogaeth i gynllun gwantan y Blaid Lafur.

5 comments:

  1. Anonymous1:15 pm

    Mae Cymundau'n Gyntaf yn ddim mwy na sgam i gael peiriant pleidleisiau i'r Blaid Lafur.

    Dydy e ddim yn gweithio. Bribe yw e a dim mwy. fersiwn mwy parchus o Nero'n rhoi gemau yn y Coliseum i'r Rhufeiniaid.

    ReplyDelete
  2. ydy Caernarfon yn gyfoethocach - yn ystyr wir fwriad Amcan Un - oherwydd bod cymaint o dlodion y dref wedi gweld sioe Max?

    Na yw'r ateb clir.

    Ond dal dy ddwr am newyddion sydd am ddod allan am effeithrwydd Cymunedau'n Gyntaf dros y mis nesaf - deinameit!

    ReplyDelete
  3. [i]ydy Caernarfon yn gyfoethocach - yn ystyr wir fwriad Amcan Un - oherwydd bod cymaint o dlodion y dref wedi gweld sioe Max?[/i]

    Yn bwysicach fyth ... a fyddai *unrhyw un* yn gyfoethocach o weld sion gan Max 'stereotypes Cymreig' Boyce?

    ReplyDelete
  4. Dim yn dwyn y clod ond just yn sylwebi am y gwahannol fyrdd mae Cymunedau Gybtaf wedi helpu pobl yn cymunedau fel Maes Barcer.

    ReplyDelete
  5. Anonymous10:36 pm

    O'n i dan yr argraff taw dim ond Hwntws sy'n deall hiwmor Max Boyce.

    ReplyDelete