19/09/2007

Y Blaid a Democratiaid Lloegr

Yn union wedi etholiad 2005 mi ddanfonais bwt o lythyr at Elfyn Llwyd, arweinydd Seneddol Plaid Cymru San Steffan. Dyma ei gynnwys:

Annwyl Elfyn,

Er gwaethaf pob ymdrech i'w trechu, mae pobl "ar y stryd" yn dal i deimlo bod Plaid Cymru yn blaid "gwrth Seisnig" ac yn amherthnasol i wleidyddiaeth Prydain Fawr.

Gai awgrymu rhywbeth bach gellir ei wneud i newid rhywfaint ar yr agwedd yma? Rhywbeth gellir ei wneud yn syml heb gost, heb newid strwythur y Blaid a heb newid polisïau.

Mae yna blaid weddol newydd yn Lloegr - wedi sefyll am ddim ond yr ail dro, mi gredaf, yn yr etholiadau diwethaf, sef yr English Democrat Party. Yn wahanol i bleidiau cenedlaethol Seisnig o'r gorffennol dydy'r blaid yma ddim yn hiliol nac yn asgell dde eithafol. Ei nod yw ennill i Loegr Senedd gyda'r un grymoedd a Senedd yr Alban - trwy raid bydda ennill y nod yma yn rhoi'r un grymoedd i Gymru.

Trwy gydweithio tipyn bach gyda'r Blaid yma - gwahodd aelod i siarad yn y gynhadledd nesaf, cael aelod mewn ambell i gynhadledd i'r wasg ar y cyd gyda'r SNP - ffeirio hanner awr o gymorth canfasio - gellir rhoi neges seicolegol i bobl Cymru bod polisïau cyfansoddiadol y Blaid YN berthnasol i BOB rhan o wledydd Prydain ac yn bolisïau sydd â neges bositif ynddynt i Loegr a hawliau pobl Lloegr yn hytrach na'u bod yn wrth-Seisnig.


pob hwyl

Alwyn


Dyma'r ateb, siomedig cefais:

Annwyl Alwyn

Diolch am yr e-bost isod ac am dy sylwadau.


Fel mae'n digwydd rwyf wedi cael gwahoddiad i annerch Cynhadledd yr English Democrats Party ond mae eu syniadau nhw ar ddyfodol Ewrop yn gwbl wrthyn yn anffodus. Oherwydd hynny mae hi yn anodd iawn gen i ystyried cydweithio hefo nhw - ond fe gymeraf y pwynt yr wyt yn ei wneud.

Dymuniadau gorau.

Yn ddiffuant

Elfyn.


Rwy'n deall pwynt Elfyn, yr wyf innau yn anghytuno a nifer o bolisïau Democratiaid Lloegr hefyd. Ond onid pwrpas datganoli / annibyniaeth yw caniatáu i wledydd gwneud eu penderfyniadau eu hunain? Mae awgrymu bod rhaid i Genedlaetholwyr Cymru, yr Alban, Cernyw a Lloegr bod yn gytûn ar bopeth cyn cael cytundeb i gydweithio yn drewi o Unoliaeth imi!

Ta waeth, yr wyf yn falch o weld bod yr SNP yn llai cibddall nag ydy Elfyn Llwyd, a bod yr SNP wedi danfon gwestai i Gynhadledd y Democratiaid Seisnig dros fwrw'r Sul diwethaf. Rwy'n gobeithio yn arw bydd Plaid Cymru yn gweld y goleuni cyn bo hir!

4 comments:

  1. Roeddet ti'n llygad dy le, ac mae'n bechod i'r Blaid beidio gweld gwerth dy syniad. Unwaith eto, mae'r Albanwyr o'n blaenau ni - cawn ond obeithio, fel arfer, y bydd y sgil-effeithiau yn ein cyrraedd ninnau hefyd...

    ReplyDelete
  2. Holl bwrpas cenedlaetholdeb Cymreig a Seisnig yw ein bod yn anghytuno ar bethau ac felly'n teimlo y dylai'r ddwy genedl gael seneddau gwahanol. Petai ni ddim yn credu hynny, yna fase ni'n hapus iawn gyda'r UK.

    Beth yw gem y Blaid. Mae nhw ceisio cadw eu hunain yn bur ac wrth wneud hynny'n chwarae gem cenedlaetholwyr Ewrop.

    Da iawn SNP - hyder mewn cenedlaetholdeb Albanaidd!

    ReplyDelete
  3. Os dwi'n cofio'n iawn un o broblemau mawr Plaid Cymru wrth ddelio gyda'r pleidiau cenedlaetholgar Seisnig yw eu hagwedd tuag at Gernyw, ac nad ydynt yn fodlon derbyn bod Cernyw â chystal hawl i alw ei hun yn genedl â gweddill gwledydd Prydain.

    Siomedig byddai gweld y Blaid yn rhoi sêl bendith i bleidiau sy'n elynol i'n cefndryd Celtaidd.

    ReplyDelete
  4. Iestyn8:07 pm

    Mae agwedd y Democratiaid Saesneg yn 'ddiddorol' tuag at Went hefyd, trwy arddel rhyw ddealltwriaeth cam iawn ynglyn a'r hen sefyllfa gyfreithiol (roedd ymgyrch 'dod a Sir Fynwy nol i Loegr' yn yr etholiad cynulliad diwethaf. Wy'n credu taw costiau'r cynulliad oedd un o'u prif ddadleuon - rhyfedd os 'yn nhw'n galw am gynulliad i Loegr).

    Eto, trwy rannu gweledigaethau a syniadau y mae addysgu'n gilydd ynglyn a'n camddealltwriaethau yn ogystal a dysgu o rannu'n llwyddiannau a'n dulliau o weithredu. Cyfle wedi'i golli yma, mae'n debyg!

    ReplyDelete