13/09/2007

Dim Darlledu Cymraeg o Gynhadledd y Blaid

Mae Adam Price yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Western Mail mae Cynhadledd y Blaid eleni, sydd yn cychwyn yn Llandudno heddiw, bydd y gynhadledd bwysicaf yn hanes y Blaid erioed. Mae peth cyfiawnhad i froliant yr AS, dyma fydd y gynhadledd gyntaf yn ei hanes i'w cynnal gyda'r Blaid yn rhan o lywodraeth ein gwlad.

Er gwaethaf pwysigrwydd y Gynhadledd ymddengys bydd Golygydd Materion Cymreig y BBC (a blogiwr gwleidyddol Cymraeg y gorfforaeth) yn rhy brysur i'w fynychu. Ac, am y tro cyntaf imi gofio ers i'r sianel cael ei sefydlu, bydd dim un rhaglen o'r gynhadledd yn cael ei ddarlledu ar S4C.

3 comments:

  1. Anonymous9:29 am

    Siom

    ReplyDelete
  2. "Mae Adam Price yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Western Mail mae Cynhadledd y Blaid eleni, sydd yn cychwyn yn Llandudno heddiw, bydd y gynhadledd bwysicaf yn hanes y Blaid erioed."

    Dyw S4C yn amlwg ddim yn cytuno...!

    ReplyDelete
  3. Anonymous12:22 pm

    Be' ddwedodd Adam yn Golwg heddiw? (sgen i'm pres i brynu copi)

    ReplyDelete