21/09/2007

Clod, Dave Collins a'r Gymraeg

Mae erthygl olygyddol y rhifyn cyfredol o'r cylchgrawn Golwg yn awgrymu bod blogwyr gwladgarol Cymru wedi ennill rhyw fath o fuddugoliaeth fawr trwy ddiswyddiad Dave Collins.

Fel Sanddef a Welsh Ramblings, rwy'n methu gweld buddugoliaeth nac achos ymffrost yn y ffaith bod tad i deulu ifanc wedi ei roi ar y clwt am ddim byd mwy na mynegi sylw ar flog.

Er anghytuno yn chwyrn a barn Dave Collins rwy'n credu bod y ffordd y mae o wedi ei drin gan ei gyflogwyr yn warthus, yn llawdrwm ac yn gwbl anghyfiawn. Ac o ystyried mae plaid, honedig, y gweithwyr oedd y cyflogwr a'i diswyddodd mai'n brawf o ragrith a haerllugrwydd ymrwymiad y Blaid Lafur at hawliau gweithwyr.

2 comments:

  1. Mae'n anheg ei fod wedi colli ei swydd, ond eto mae pobol wedi chware rheole y blaid Lafur, a wedi talu'r pwyth yn ôl.

    ReplyDelete
  2. Cytuno 'da ti HRF. Dwi'n anghytyno 'da CD ond ddim am mynd nol i'r nonsens yma o bobl yn cael eu sacio am fynegu eu barn. Serch, bai Llafur yw e am ddechre'r holl nonsens yma yn y lle cyntaf. Cawn ni alw'r peth yn 'draw' nawr a symud ymlaen.

    Dwi'm yn meddwl ei fod yn gwneud lot o les i ymgyrch yr iaith fod pobl yn gallu dweud nad oes hawl gan bobl fynegu barn ar y pwnc.

    ReplyDelete