19/08/2007

Yr Alban - un o'r Cenhedloedd Unedig?

Yn y rhifyn cyfredol o'r Sunday Herald, mae yna erthygl ddiddorol gan John Mayer. Rwy'n ansicr os mae John Mayer y cerddor ydyw neu unigolyn sy'n digwydd rhannu'r un enw, ond beth bynnag bo cefndir awdur yr erthygl mae ei gyfraniad yn un gwerth ei ddarllen.

Mae Mayer yn annog Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond i wneud cais i'r wlad cael ymuno a'r Cenhedloedd Unedig. Syniad anghall ar un wedd gan nad yw'r Alban yn wlad annibynnol, ond mae Mayer yn egluro bod cynsail i wledydd sy' ddim yn annibynnol ymuno ar CU. Mae'n debyg bod yr India, Belarus, Ynysoedd y Ffilipin a'r Iwcraen oll wedi dod yn aelodau llawn o’r CU cyn eu bod yn wledydd annibynol. Mae gan y Palestiniaid aelodaeth sylwedydd o'r CU, er nad oes fawr obaith o weld Palestina annibynol yn y tymor byr.

Mae un aelod o senedd yr Alban, Michael Matheson, eisoes wedi rhoi ei gefnogaeth i'r alwad, ac mae aelodau pwysig ond dienw o'r SNP wedi awgrymu bod y syniad yn un sydd yn adlewyrchu dymuniad y Prif Weinidog i weld yr Alban yn cael ei gynrychioli ar gyrff rhyngwladol. Pe bai'r Alban yn gwneud cais ac yn cael ei wrthod oherwydd gwrthwynebiad llywodraeth y DU bydda hynny'n fêl ar fysedd y cenedlaetholwyr, pe bai'r Alban yn cael ei dderbyn mi fyddai'n cam pwysig ymlaen i annibyniaeth.

Ac wrth gwrs pe bai'r Alban yn cael ei dderbyn yn aelod o'r CU bydda ddim rheswm yn y byd pam na ddylai Cymru cael dod yn aelod hefyd!

1 comment:

  1. Anonymous5:47 pm

    dyma'r math o syniadau herfeyddiol, diddorol a risque sydd angen i Blaid Cymru wthio.

    fydd Plaid yn colli yn 2011 os na fydd yn llwyddo i greu naratif gynhryfus dros genedaletholdeb Gymreig a chanolbwyntio'n unig ar issues domestig.

    ReplyDelete