31/08/2007

Blogio yn yr Heniaith

Wrth imi roi cychwyn ar flogio, tua mis Ebrill, fy mwriad oedd cynnal blog dwyieithog. Cefais fy mherswadio mae dau flog cyfochrog y naill yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg oedd y trywydd callaf i'w dilyn. Felly mae gennyf dau flog cyfochrog Hen Rech Flin a Miserable Old Fart.

Rhaid cyfaddef bod mwy o byst Saesneg na rhai Cymraeg gennyf am amryfal resymau.

Dyma un ohonynt:

O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.

Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp trwy addo gwneud pethau megis:

Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd

Postio sylw er cynnal trafodaeth

Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.

Traws ymateb mewn pyst


Rwy'n blogio yn y Saesneg er mwyn cael dweud fy nweud, rwy'n blogio yn y Gymraeg er mwyn bod yn wleidyddol cywir fy nghefnogaeth i'r iaith!

A oes modd cynnal cymdeithas debyg i Blogpower i'r sawl sy'n blogio yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein perlau yn cael eu darllen gan gyd flogwyr, o leiaf, os nad gan neb arall?

13 comments:

  1. Paid â digalonni HRF! Er, dw i'n dueddol o feddwl mai'r Blogiadur yw'r peth agosaf sydd gennym ni at hynny.

    Y broblem ydi, mae'n siwr, nad oes yna llwyth o flogiau Cymraeg, ac mae'n nhw'n rhai o naws gwahanol iawn i'w gilydd, a chan fod i bawb chwaeth wahanol annhebyg iawn y byddai unrhyw 'gytundeb' yn gweithio.

    Ta waeth, fyddai'n well gen i bobl sy'n darllen fy mlog er mwyn ei fwynhau, nid ei darllen oherwydd bod rhaid!

    ReplyDelete
  2. Ond cofia, mae rhwng 300 a 400 (a mwy, weithiau) yn darllen y Blogiadur bob dydd, felly er nad ydy pawb yn clicio trwyddo ac yn cyrraedd dy ystadegau di, maen nhw'n darllen beth ti'n sgwennu...:-)

    Ond mae'r syniad o gychwyn Blogpower Cymraeg yn un da - amdani!

    ReplyDelete
  3. A! Y "creisis blogio Cymraeg"!

    Dwi di bod trwyddi sawl gwaith. Y gwir ydi, os ma gen ti 20 person yn darllen pan ti yn postio, yna mae gen ti y rhan fwyaf o'r blogwyr "actif" yn darllen dy flog beth bynnag. Erbyn hyn dwi'n derbyn mod i'n blogio er mwyn fy hun, ac er mwyn y nifer bychan o bobol sy'n mwynhau darllen ambell gofnod, ac sydd efallai am gael hyd i rhywbeth sydd ddim yn cael ei drafod ar y faes-e. Cyfyng, mi wn, ond dyna ni.

    Dwi'n meddwl fod postio dyddiol yn mynd i gynyddu dy niferoedd di yn sywleddol hefyd. Dyna sut gei di sylw pobol.

    Un peth bach i Aran: dydi'r Blogiadur ddim yn dangos pyst Wordpress cyfan cofia, dim ond y frawddeg gyntaf yn aml, felly di 300 darllenwr ar y blog fawr o iws i fi os nad ydi pobol yn clicio drwodd (ac mae nhw, felly mae'n ocê!).

    ReplyDelete
  4. A, ia - mae hynny oherwydd bod WordPress yn ddigon coeth i ffurfio'r 'excerpt' yn iawn, lle mae blogger yn chwydu pob dim allan - ond dylai fod modd i ti addasu faint o lythrennau sy'n cael eu cynnwys yn dy excerpt... dw i'n gweld tua maint paragraff yn dod trwyddo gen ti, ac yn ddigon i weld lle ti'n mynd efo rhywbeth...;-)

    Cofiwch, chi flogwyr, bod pobl sydd ddim yn blogio hefyd yn darllen eich cyfraniadau - mae tipyn o gyn-Sgwarnogod yn darllen y Blogiadur yn eiddgar, a'r rhan helaeth ohonyn nhw yn bobl sydd ddim yn defnyddio'r We yn aml o gwbl, a nifer hyd yn oed heb glywed am Maes-E...!

    Dw i ddim yn argyhoeddiedig mai lefel yr ymateb ydy'r ffordd orau i fesur gwerth blog - iawn, mae'n amlygu rhai pethau, ond dw i'n credu bod nifer o flogiau Cymraeg wedi cael effaith gwerthchweil ar sut mae pobl yn meddwl am bethau, a pha bethau maen nhw'n meddwl amdanyn nhw hefyd - wyddoch chi, fel oedd yn wir yn yr hen ddyddiau am newyddiadurwyr da...;-)

    Dach chi'n creu rhywbeth gwerthchweil iawn - gofod lle mae'n naturiol i ddefnyddio'r Gymraeg efo pobl dach chi ddim yn eu nabod. Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, ond mae'r cynulleidfa'n tyfu (o'r hyn dw i'n ei weld ar y blogiadur), felly daliwch ati...:-)

    Hawdd i mi ddweud, wrth gwrs - dim yn blogio, ac felly dim yn ysu cael ymateb. Efallai bydd rhaid i mi gychwyn blog er mwyn trio eich dallt chi'n well (ac felly cael y blogiadur i weithio'n well ar eich rhan)...

    ReplyDelete
  5. Mae blogwyr Cymraeg yn brin, a mae canolbwyntio ar bwnc arbennig fel gwleidyddiaeth (nid at ddant pawb) yn cyfyngu pethau.

    Dwi'n meddwl bod dy flog di'n hyod ddifyr HRF, ac yn ei ddarllen drwy Bloglines (ac mae 5 arall yn hefyd), felly eto ni fydd rhain yn dangos ar dy ystadegau oni bai eu bod yn clicio arno.

    Mae gadael sylwadau yn bwysig, efallai byddai rhyw ymgyrch tebyg i Blogpower, efallai gallwn ni drio 'ymgyrch' ble mae pobl yn dilyn y cannlawiau Blogpower am wythnos/mis i weld os oes cynnydd?

    ReplyDelete
  6. Fel mae Rhodri ac Aran (a Nic yn y gorffenol) wedi dweud, dylid efallai peidio poeni gormod am sylwadau.

    Oes modd cyhoeddi rhestr hits misol BLogiadur Aran? Os anfoni di nhw drwy e-bost atai gallaf eu rhoi mewn i graff (job i Rhys Llwyd efallai!).

    Byddai dangos hwn efallai'n gwneud i blogwyr dwimlo'n well am eu hymdrechion ;-)

    ReplyDelete
  7. Ia, falch iawn i'w wneud...:-)

    ReplyDelete
  8. Wyt ti'n siwr bod pawb sy'n "darllen" MOF yn ymwelwyr go iawn, a nid jyst pobl sy wedi dod i mewn ar hap ar ôl chwilio am rywbeth ar Google? Yn nyddiau cynnar Morfablog, ces i fwy o bobl oedd yn edrych am "anaml sex" na dim byd arall.

    (Bach yn siomedig i weld bod MB wedi syrthio o dudalen flaen canlyniadau Google am y termau 'na.)

    ReplyDelete
  9. Anonymous12:54 pm

    Aran - difyr am blogiadur - ddim yn cael lwc efo cael newyddion dotCYM arno (ond hen stori di hwnna ;-)

    Yn besonol, dwi ddim yn hoffi cael yr holl gofnod wedi ei gynnwys ar y Blogiadur. mae'n hassle sgrolio lawr i'w osgoi os na fyddaf am ei ddarllen. Well gen ti y paragraff agoriadol a rhoi'r dewis i'r darllennydd glicio a darllen y gweddill (neu beidio).

    T'beth - dwi'n hoff o HRF ac o MOF ac Odrivicius 'fyd. Hoff o World Wide Wales Jeff Rees a sawl un arall. Hwn yn ffrwdfa dda am blogiau gwleidyddol genedlaetholaidd, dyma'r fath o beth hoffwn weld petai digon o blogs gwleidyddol yn y Gymreg: :http://www.toque.co.uk/witan/


    Sion, Aber

    ReplyDelete
  10. Hmmm... o'n i'n meddwl i mi sortio DotCym erbyn hyn... wnei di adael i mi wybod os na fydd y cyfraniad nesaf gen ti yn dangos ar y blogiadur?

    Oce - wna i gwtogi'r cofnodion (hyd nes i rywun arall gwyno bod nhw'n licio fo fel arall...;-))... gofyn ac mi gei, ynde!

    ReplyDelete
  11. Anonymous6:11 pm

    Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd

    Postio sylw er cynnal trafodaeth

    Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.

    Traws ymateb mewn pyst


    Shit, o'n i ddim yn gwybod am y rheolau!!!

    Swnio fel syniad da, ond dydy blogwyr Cymraeg yn enwog am adael sylwadau. Dw'i hyd yn oed wedi ystyried rhoi'r gorau i flogio yn y Gymraeg am yr un rhesymau sydd wedi cael eu rhestru gen ti. Ar y cychwyn roeddwn i'n sgwennu a chyfieithu erthyglau llawn, ond erbyn hyn dim ond ol-nodiadau sy'n cael eu postio ar e-clectig.

    ReplyDelete
  12. Anonymous6:15 pm

    Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp

    Jyst i fod yn deg, nid yw blogpower yn gyfyngedig i safbwynt gwleidyddol, blogiau gwleidyddol, na flogiau o Brydain chwaith.

    ReplyDelete
  13. Dyna ti HRF...ti di cael mwy o ymateb i un post na be dwi'n gael mewn mis cyfa ;)
    Dalia ati...ac mi wnawn ninnau ddal ati i fwynhau dy flog.

    ReplyDelete