26/07/2007

Sesiwn o dristwch

Y rheswm am ddiffyg pyst ers wythnos a rhagor yw fy mod wedi bod yn ymweld â'r teulu yn Nolgellau, gan gynnwys bwrw'r Sul yn "mwynhau"'r Sesiwn Fawr

Mae'r Sesiwn wedi fy ngadael yn ddigalon braidd.

Roedd Gŵyl Werin Dolgellau yn y 1950au a Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau yn yr 80au yn rhan o'r frwydr Genedlaethol. Yn ffordd o ddefnyddio cerddoriaeth i hybu gwladgarwch a chenedlaetholdeb. Peth felly oedd y Sesiwn Fawr yn ei chychwyniad hefyd. Ond mae min gwleidyddol, cenhadol, y Sesiwn wedi ei byli bellach. Mae cenedlaetholdeb y gân yn hen ffasiwn rŵan!

Mae canu am y frwydr genedlaethol yn rhywbeth sy'n perthyn i'r hen genhedlaeth, rhywbeth yr oedd rhieni'r genhedlaeth ifanc gyfoes yn brwydro drosti ond sy'n rhywbeth i'w ymladd yn ei herbyn bellach, gan ei fod yn perthyn i ddyddiau Mam, Dad, Nain a Thaid, rhywbeth nad yw'n trendi mwy.

Roedd y Dubliners yn wych rhyfeddol, yn canu rhai o'r hen ffefrynnau megis Paddy works on the Railway, Whisky in the Jar, Wild Rover ac ati - ond dim un o'u caneuon cenedlaetholgar enwog megis A Naton once Again - wedi cael rhybudd i beidio â'u canu rhag pechu penaethiaid Teledu a Radio, yn ôl y sôn.

Dubliners yn cael eu dilyn gan grŵp o'r enw Genod Droog. Eu prif leisydd yn fardd cynganeddol profiadol, sy'n methu sgweu geiriau gwell na Be sy' drwg? - Genod, genod drwg. Bobl annwyl mae 'na lawer mwy o ddrwg yng Nghymru na genod drwg, peth yr oedd ein prifeirdd yn ymwybodol ohoni ar un adeg!

Yn la, la, laio a bip-di bipio fel cefndir i Be sy' drwg? - Genod, genod drwg? oedd yr hogan oedd yn gallu dod a dagrau i lygaid cenedl gyfan trwy ganu am Golli Iaith ugain mlynedd yn ôl - dyna dro ar fyd!

Rwy'n derbyn fy mod yn perthyn mwy i genhedlaeth hip op' na hip hop bellach, ond diawch rwy’n methu deall pam nad yw'r genedl a'i hachos yn rhywbeth werth ei ganu amdano heddiw fel ag y bu ers talwm!

5 comments:

  1. SA ti'n synnu faint o hip hop Cymraeg sydd yn wleidyddol a chenedlaetholgar. A dweud y gwir, dyna lle bu min y gan wleidyddol Gymraeg ers blynyddoedd bellach.

    Tra bod gwerin wedi mynd mynd yn cydli, mae hip hop wedi cymryd yr awennau i drio deud hi fel ma hi. Hwyl pur ydi hanfod Genod Droog dwi'n meddwl, a dwi'n siwr fasa nhw'n deud taw drwy brosiectau eraill yr aelodau mae nhw'n gwneud yr hyn ti'n chwilio amdano.

    ReplyDelete
  2. Dallt yn iawn HRF. Dwi'n meddwl ein bod yn perthyn i'r un genhedlaeth ;), ac mae gwrando ar un gân hip hop yn ddigon i mi!

    ReplyDelete
  3. Anonymous11:10 am

    Ga i amddiffyn yn hunan? Ed Holden sy'n gyfrifol am eiriau'r gan 'Genod Droog Theme' i gyd, dim byd i wneud a fi, yn ffodus neu'n anffodus. ma na le i lol fel mae na le i farwnadu. Wyt ti'n meddwl felly y dylai pob awdl arobryn yn y Gadair fod am yr iaith aq'i sefyllfa anobeithiol neu ddylen ni symud ymlaen falle a defnyddio'r iaith fel cyfrwng i ddweud rhywbeth arall, ar wahan i edrych ar y bogel. wy'n caru'r iaith Gymraeg ac am ei gweld hi'n fynnu, wneith troi mewn cylchoedd yn son am ei thranc (fel yn 'colli iaith') ddim a ni i unman ond ebargofiant. Ryn ni mewn cymru newydd hyderus sydd yn edrych mas i'r byd ac mae angen adlewyrchu hynny. Ac fe wnaethpwyd pwynt da uchod, cael hwyl wrth wneud cerddoriaeth yw pwrpas y Genod Droog, nid hip-hop mo'r steil, ond hip-pop(eth), mae gyda fi ac Ed brosiect o'r enw Y Diwygiad, sy'n ymdrechu i wneud Hip-Hop ffresh a deallus sy'n dod a'r Gymrag i'r un lefel a ieithoedd eraill. Os yw'r Gymraeg i oroesi heb son am ffynu, dim ond trwy fabwysiadu ffurfiau o fynegi'n hunain sy'n denu'r ifainc fel rapio y gall wneud hynny. Sori os wy'n rantio, ond teimlo ydw i fod angen trafodaeth iach. Joiodd Heather Jones fod ar y llwyfan gyda ni, mae'n dweud cymaint amdani hi ac yw e am y Gymru sydd ohoni ei bod hi'n awyddus, nage jyst yn fodlon, perfformio gyda'r Genod Droog. Reit, fe geia i mhen i nawr!

    ReplyDelete
  4. Anonymous4:07 am

    Rwyt yn edrych yn ol ar oes aur na fu, Alwyn bach. Rwyn cofio'r Gwyl Werin Geltaidd hefyd (ond nid un y 1950au). Roedd y Trwynau Coch yn canu yn un ohonynt, yn canu am "Ferched dan Bymtheg" - dim byd cenedlaetholgar yn y gan. O leia' mae genod drwg Aneuryn dros oed cydsynio!

    Mae cael hwyl "anwleidyddol" yn y Gymraeg cyn bwysiced i achos parhad yr iaith ac ydy ymgyrchu yn wleidyddol "galed".

    Dydy'r fath o gerddoriaeth mae'r Genod Droog yn canu dim at fy nant innau chwaith. Rwy'n dyn Jac a Wil! Ond tra bod ni'r hen stejers yn cau ein clustiau i'r fath swn aflafar roedd miloedd o bobl ifanc yn mwynhau perfformiad CYFOES CYMRAEG - dyna be' sy'n bwysig!

    ReplyDelete
  5. Anonymous10:55 pm

    Hmmm - parthed sylw Aneirin Karadog : pam yr esboniad hirfaith? Onid yw'r gerddoriaeth yn dweud y cyfan?

    ReplyDelete