07/07/2007

Colli TJ

Trist oedd clywed am farwolaeth y Parch T.J. Davies ychydig ddyddiau yn ôl. Mi ddois i adnabod TJ yn gyntaf yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul ym 1976 pan oeddwn yn efengylwr ifanc hynod filwriaethus ac anoddefgar o farn pawb arall. Er gwaethaf fy anoddefgarwch tuag at ei farn ef, ac er gwaethaf y ffordd fwyaf dieflig o anghwrtais imi fynegi'r farn yna roedd TJ yn ymateb o hyd mewn modd rhadlon a chwrtais. Er fy mod i yn bloeddio tân a brwmstan arno ef am ei farn, roedd o'n fodlon gwrando yn barchus ar fy mloeddio a chynnig cyngor caredig wrth ymateb.

Un o'r pethau mwyaf gwirion imi wneud yn fy nydd oedd meddwi'n dwll (er fy mod yn ddirwestwr rhonc ar y pryd) ar anogaeth dirwestwyr efengylaidd eraill ac yna churo ar ddrws tŷ TJ yng Nghaerdydd a gofyn iddo am bris botel o wisgi. Cefais groeso ganddo, panad a chacen a fy nhrin fel un oedd mor sobor â sant. Gan TJ dysgais wir ystyr troi y boch arall, trwy weithred, yn hytrach na phregeth.

Mae nifer o bobl ifanc Cymru wedi cael cymorth, lloches a bendith trwy'r Gorlan yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Tynnu'r p*** allan o TJ oedd un o'r rhesymau am ddechrau'r Gorlan, neu Dafarn TJ (tomato jiws), ys y galwyd yn wreiddiol. Rhan o fawredd TJ oedd ei gefnogaeth i'r fenter, er gwaetha'r ffaith mae tynnu hwyl ar ei ben gan "elynion" crefyddol oedd rhan o'r sail.

Mae Cymru wedi colli dyn mawr, cyfaill triw i'r iaith a'r genedl a Christion anghymharol ym marwolaeth TJ, bendith bydd pob coffa amdano, heddwch i'w llwch, yn ddi-os mawr bydd ei wobr yn y Nef.

1 comment:

  1. Am unwaith Alwyn, dwi'n cytuno cant y cant.

    Cefais i'r fraint o gyfarfod y dyn hynod hwn hefyd sawl gwaith tra roedd yn byw ym Mhenparcau, ardal fy mebyd. Roedd parch anferthol tuag ato o bob cwr o'r gymdeithas leol.

    Heddwch i'w lwch.

    ReplyDelete