26/06/2007

Teithio i'r Ysgol

Mae yna drafodaeth ddiddorol yn cael ei gynnal yn y Cynulliad ar hyn o bryd ar ddiogelwch teithiau i'r ysgol. Mae rhan o'r drafodaeth yn codi o farwolaeth drist Stuart Cuningham Jones mewn damwain bws ysgol, ac ymgyrch ei deulu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar bob bws ysgol.

Mae'r bws ysgol sy'n cludo fy mhlant i Ysgol y Creuddyn yn un sydd â gwregys diogelwch ar gyfer pob teithiwr yn barod, ond mae'r plant yn gwrthod eu defnyddio. Bydd y rhai sydd yn eu gwisgo, dweder yn eu hwythnos gyntaf yn yr ysgol newydd, yn cael eu dilorni gan blant eraill. Mae diwylliant y bws ysgol yn gorfodi (bwlio hyd yn oed) plant i beidio â defnyddio'r offer sydd yn cael ei ddarparu ar gyfer eu diogelwch. Rwy'n gobeithio bydd y Cynulliad, wrth edrych ar ddiogelwch, yn ystyried dulliau o newid y diwylliant yma. Diwerth yw gwregys sy ddim yn cael ei wisgo.

1 comment:

  1. Diolch Alwyn. Dwi'n cytuno'n llwyr - dwi'n meddwl bod y ddadl yma yn "no brainer". Dyma un mater sydd yn hawdd i'w ddatrys. Wrth deithio i'r gwaith dwi'n gweld hen fysiau ysgol sy'n orlawn hefo plant yn camymddwyn a nifer ohonyn nhw'n ysmygu. Sut fath o amgylchedd ydy hynny ar gyfer plant? Mae'n hen bryd i ni gael cyfraith sy'n gorfodi i'r cwmniau bysus sy'n cael eu talu i gynnal y gwasanaeth yma gael bysus newydd hefo'r cyfarpar diogelwch diweddara'. Mi ddylai bod aelod o staff ar y bws yn sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei ddefnyddio a'r rheolau ynglyn ag ymddygiad yn cael eu dilyn. Mae mor syml a hynny. Beth sy'n bod arnom ni fel cymdeithas yn peryglu bywydau plant ar eu taith bob dydd?

    ReplyDelete