26/06/2007

Mewn Undod Mae Gwendid!

Yn ôl blog Vaughan Roderick

Os nad aiff rhywbeth mawr o le dw i'n disgwyl i Blaid Cymru cefnogi coch-gwyrdd. Dyma'r rheswm. Dw i'n synhwyro bod Ieuan yn reddfol yn ddyn yr enfys. Ond dw i hefyd yn amau y bydd yn gweld undod y blaid yn ffactor allweddol.

Pe bai'n gwthio am yr enfys mae'n bosib y byddai'n colli'r bleidlais neu yn ei hennill o fwyafrif bychan. Pe bai e, ar y llaw arall, yn argymell delio a Llafur fe fyddai'r mwyafrif yn fwy sylweddol.

Fe fydd y ffaith bod cefnogwyr mwyaf pybyr yr enfys yn wleidyddion mwy aeddfed a disgybledig na rhai o gefnogwyr coch-gwyrdd hefyd yn ffactor. Fe fyddai pobol yr enfys yn derbyn penderfyniad y mwyafrif. Dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn wir am rai o aelodau'r garfan arall. .

Yfory felly dw i'n amau y bydd Ieuan yn mynd yn groes i'w reddf ac yn aberthu ei uchelgais ei hun er mwyn ei blaid. Mae Ieuan wedi tyfu yn ystod hyn oll. Fe ddylai aelodau Plaid Cymru fod yn falch o'i harweinydd.

Os ydy hyn yn wir, a bydda ymddygiad blaenorol rhai ACau yn awgrymu bod yna bosibilrwydd ei fod yn wir, mae'n warthus o'r naill ochor a'r llall. Ar y cochwyrdd am fod mor bwdlyd o blentynnaidd ac ar yr enfyswyr am fod mor ddi-asgwrn-cefn ac ildio i'w pwdu. Beth bynnag yw rhinweddau'r naill glymblaid neu'r llall bydda wneud y dewis ar y sail y mae Vaughan yn honni y caiff ei wneud yn ffwlbri. Does dim sail waeth ar gyfer penderfynu siâp llywodraeth yn bosib.

Yn wahanol i Vaughan rwy'n methu gweld dim i'w hymfalchïo ynddi yn ymddygiad Ieuan os ydyw yn rhoi gorau i'w huchelgais i fod yn brif weinidog, nid er lles Cymru, nid er mwyn ehangu datganoli, nid er mwyn achos y genedl ond o herwydd ei ofn i sefyll yn gadarn yn erbyn rhai sydd am roi eu rhagfarnau am bleidiau gwleidyddol eraill o flaen yr hyn sydd orau i'w plaid hwy eu hunain.

1 comment:

  1. Diddorol iawn.

    Cawn weld faint o gefnogwyr Plaid Cymru fydd yn cydymdeimlo gyda'r safbwynt yma, yn arbennig yng nghefngwlad Cymru, lle fydd llawer yn gweld hi'n anodd i ddeallt sut mae Llafur yn ol mewn pwer oherwydd cefnogaeth IWJ.

    ReplyDelete