28/06/2007

Hwyl Arglwydd Roberts - Croeso Arglwydd Rhechflin

Gyda chymaint yn digwydd yn y Bae a Thŷ’r Cyffredin ddoe cafodd hanes, a fyddai'n newyddion gwleidyddol o bwys i Gymru ar ddiwrnod arall, ei gladdu braidd. Ar ôl deng mlynedd o wasanaeth i'w wlad a'i blaid fel llefarydd materion Cymreig y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi mae'r Arglwydd (Wyn) Roberts o Gonwy am ymddeol.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae Syr Wyn wedi bod yn Arglwydd gweithgar a diwyd ac mae o wedi dylanwadu ar nifer o fesurau seneddol yn ymwneud a Chymru gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwy’n gobeithio bod pwy bynnag sy'n cael ei ddewis yn ei le yn gymaint o "genedlaetholwr" a bu Syr Wyn, oherwydd bydd Tŷ’r Arglwyddi yn chware rhan bwysicach nag a fu yng ngwaith y Cynulliad o hyn ymlaen.

Fel y gwyddom bydd gan y Cynulliad newydd hawliad deddfwriaethol o dan drefn gymhleth. Bydd Mesurau'r Cynulliad yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Tŷ’r Cyffredin, Y Cyfrin Gyngor a Thŷ’r Arglwyddi. Fe all Tŷ’r Arglwyddi ymwrthod a Mesurau'r Cynulliad neu (o bosib) eu diwygio, yn ogystal â rhoi sêl bendith iddynt. Gan hynny mae'n bwysig cael wladgarwyr fel yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn y Tŷ i sicrhau pob tegwch i'r mesurau.

Wrth gwrs Tori yw Syr Wyn a Thori bydd ei olynydd. Mae yna Gymry da o'r pleidiau eraill yn Arglwyddi hefyd, fy ngweinidog annwyl y Parchedig Arglwydd Roger Roberts o’r Rhydd Dems, Yr Arglwydd Elystan Morgan ac eraill o'r Blaid Lafur a Dafydd Elis Thomas o Blaid Cymru. Bydd cyfrifoldeb mawr ar rain i sicrhau pob tegwch i fesurau'r Cynulliad hefyd. Ond bydd yna anawsterau i Dafydd El. Yn gyntaf wrth gwrs bydd ganddo job a hanner i'w gyflawni yn y Cynulliad, heb fawr o amser i sbario i fod yn Nhŷ’r Arglwyddi hefyd. Yn ail gan fod Dafydd yn AC, yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ac yn Arglwydd bydd yna bwysau cyfansoddiadol arno i beidio â cheisio ymarfer dylanwad ar fwy nag un lefel o'r broses. Gan ei fod yn niwtral fel Llywydd y Cynulliad mi fydd yn anodd iddo fod yn bleidiol neu yn wrthwynebus i Fesur o'r Cynulliad mewn lle arall. Felly mae yna berygl bydd unig lais y Blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael ei dewi tra fo mesurau'r Cynulliad ger bron.

Mae yna gant a mil o resymau da dros wrthwynebu bodolaeth Tŷ’r Arglwyddi a chymaint o resymau da dros beidio â danfon Pleidwyr i'r ffasiwn le, ond mae'n rhaid inni fyw yn y byd fel y mae hyd iddi newid. Gan fydd Tŷ’r Arglwyddi yn chware rhan bwysig yn hynt a helynt Mesurau'r Cynulliad mae'n bwysig bod Arglwyddi o'r Blaid yno i gael dylanwad. Mae'n hen bryd i'r Blaid newid ei bolisi o foicotio’r Arglwyddi ac i wneud hynny ar fyrder, gan fydd y Mesur Cyntaf yn cael ei drafod yn y Tŷ tua mis Hydref.

Ond pwy i gael fel Arglwydd o genedlaetholwr? Mae yna ryw dinc yn yr enw Yr Arglwydd Alwyn o Rechflin, yn does? ;-)

2 comments:

  1. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda ti Alwyn. Dwi ddim yn hoffi'r modd anemocrataidd y mae Arglwyddi yn cael eu penodi, ond problem Brydeinig yw honno.

    Tra bod yna benderyniadau sy'n effeithio'n fawr ar Gymru yn cael eu gwneud yn Nhy'r Arglwyddi, dylai fod gan Blaid Cymru gyfran teg o Arglwyddi yno.

    Beth am yr Arglwydd Dafydd Wigley a'r Arglwydd Cynog Dafis?

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:18 pm

    Cynog Dafis? Dim siawns!

    ReplyDelete