08/06/2007

Gwastraff Ailgylchu

Ers blynyddoedd, bellach, yr wyf wedi arfer mynd a gwydr a phapurau newyddion gwasarn i'r canolfan ail gylchu, er gwaethaf hynny mae fy nheulu wedi llwyddo llenwi ei wili-bin i'r top pob wythnos.

Bellach mae'r Cyngor lleol (Conwy) wedi penderfynu casglu sbwriel "cyffredin" pob yn ail wythnos a chasglu sbwriel ailgylchadwy pob yn ail wythnos. Y drwg ydy mai'r unig bethau y maent am imi roi yn y bin ailgylchu yw gwydr a phapur, pethau yr wyf wedi dod i'r arfer o beidio â'u binio ers talwm. Sydd yn peri problem imi, mae'n rhaid imi gael gwared â hanner cynhwysion y wili mewn modd amgen pob pythefnos.

Gwych, rwy'n cefnogi ailgylchu, felly yr wyf wedi bod yn edrych ar bob darn o rwtsh cyn ei finio, wedi edrych ar y symbol ailgylchu sydd ar bob paced ac wedi eu rhannu yn ôl y symbol. Plastig a chardfwrdd yw'r ddau beth mwyaf yr wyf yn eu binio. Er mwyn cadw lle yn y wili yr wyf wedi cadw pob darn o blastig a chardbord ar wahân yr wythnos diwethaf er mwyn eu hailgylchu.

Ddoe mi es am dro i'r domen leol i gynnig y cardfwrdd a'r plastig i'w ailgylchu, ond cefais fy ngorchymyn i'w gosod yn y sgip ar gyfer gwasarn domestig cyffredin. Sy'n golygu na fydd un darn mwy o'r gwastraff mae fy nheulu yn ei chynhyrchu yn cael ei ailgylchu nag oedd cyn i'r cynllyn ailgylchu dechrau.

Yn waeth byth, yn hytrach na un lori bin yn mynd a gwastraff wythnos o stad o gant o dai i'r domen leol, bydd angen cant o deithiau car unigol. Pa les i'r amgylchedd sydd i'r fath lol botas o drefn?

1 comment:

  1. Dim lles i'r amgylchedd yma HRF :(
    Mae'n syndod gymaint o blastig a chardbord sydd yn hel mewn ychydig o amser. Does 'na ddim safleoedd ailgylchu ar eu cyfer acw? Mae'r rhai yma mewn maes parcio archfarchnadoedd fel arfer, ac felly'n hwylus iawn i ni.

    ReplyDelete