12/06/2007

Cenedlaetholwr nid Sosialydd

Mae nifer o sylwadau ar y blogiau gwleidyddol ac yn edeifion gwleidyddol Maes-e yn niweddar wedi profi bod yna gnewyllyn o genedlaetholwyr Cymreig sy' ddim yn derbyn y farn Sosialaidd.

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn perthyn i'r canol neu'r dde o'r sbectrwm gwleidyddol. Yn anffodus ers dechrau'r wythdegau bu don o sosialwyr yn honni mae achos sosialaidd yw'r achos cenedlaethol; ers canol y nawdegau mae'r don wedi troi yn llif. Bellach yr unig ddadl genedlaethol, bron iawn, sy'n cael ei gynnig yw'r ddadl sosialaidd ac mae'r mwyafrif o Bleidwyr yn derbyn y ddadl yna, yn erbyn eu synhwyrau cynhenid, gan nad ydynt yn clywed dadl amgen.

Gan hynny yr wyf yn croesawu galwad Sanddef Rhyferys am fforwm i genedlaetholwyr sy' ddim yn Sosialwyr i gyd drafod er mwyn ceisio datblygu syniadau cenedlaethol y de a'r canol ac i geisio lledaenu neges cenedlaetholdeb Cymreig o bersbectif sydd ddim yn un Sosialaidd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a'r fath fforwm mae rhagor o fanylion ar flog Ordivicius.

Yr wyf wedi agor trafodaeth ar yr un testun ar Faes-E. Os ydych yn aelod o'r Maes gwell bydd trafod yno yn hytrach nag yn fy mlwch sylwadau.

5 comments:

  1. oi sou helio estive aki gostei muito quer uma parceria passe no meu blog pegue o selo e cole seu blog que eu colo o seu no meu valeu
    http://mercadodaspulgas.blogspot.com

    ReplyDelete
  2. Cais gan rhywun o Bortiwgal yn chwilio am ddolen yw'r uchod, mi gredaf.

    ReplyDelete
  3. Anonymous3:27 am

    Gwahoddiad i ymweld a'i flog ydy.

    Ond at y pwnc: serch rhai sylwadau ar fy mlog innau, nid cais i holltu Plaid Cymru sydd yma (dwi ddim yn aelod felly nid fy mhroblem i ydy gwleidyddiaeth fewnol y blaid), eithr cais i greu fforwm ar gyfer rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ymhlith cenedlaetholwyr sydd heb gartref iddyn nhw eu hunain i leisio eu syniadau.

    ReplyDelete
  4. Anonymous6:06 am

    This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete