16/05/2007

Yr Arwr Tartan

Wrth i'r Alban dechrau ar un o gyfnodau mwyaf cynhyrfus yn ei hanes ers 300 mlynedd, bydd diddordeb sicr ym mysg cenedlaetholwyr Cymru yn hynt a hanes gwleidyddol y wlad.

Ar y cyfan rwy'n credu bod blogio Cymreig yn dipyn gwell na blogio yr Alban (ond hwyrach bod gennyf ragfarn). Mae yna un blog sy'n sefyll pen ac ysgwydd uwchlaw'r gweddill sef cynnig yr Arwr Tartan. Mae'n werth pigo draw i ddarllen ei fyfyrdodau yn rheolaidd os am gadw bys ar bỳls cenedlaetholdeb cyffroes ein cefndryd Celtaidd.

Mae ei gynnig diweddaraf yn cynnwys fideo o araith derbyn y brif weinidogaeth gan Alex Salmond.

1 comment:

  1. Dwi ddim wedi bod yn dilyn pethau yn yr Alban cymaint a hynny, ond o'r ychydig dwi wedi weld, dwi'n meddwl bod blogiau o'r Alban gyda tipyn mwy o sylwedd na rhai Cymreig (gyda'r eithrad o'r blog yma wrth gwrs!)

    Yr unig un gwleidyddol Albaniadd dwi wedi bod yn ddilyn yw J. Arthur MacNumpty. Mae gan Albanwr gath ei eni yn Lloegr, ac efallai bod un o'i reini'n Saesneg ar llall yn Albanes/Albanwr.

    ReplyDelete