09/05/2007

Rhyfedd o fyd

Mae'r blogosffer Cymreig yn fyw efo sylwadau am ddyfodol annisglair Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Ei bechod: bod ei blaid yn yr union un sefyllfa o ran nifer y seddi a chanran y bleidlais ag ydoedd ym 1999.

Mae pawb yn clodfori llwyddiant Ieuan Wyn Jones, arweinydd y Blaid am gael etholiad gwych. Ond mae pleidlais y Blaid wedi mynd i lawr o tua 6% ers 1999 ac mae gan y Blaid 4 AC yn llai na 1999.

Pe bai'r Blaid wedi aros yn wastad am yr 8 mlynedd diwethaf a fyddai Ieuan mewn trwbl eleni?

1 comment:

  1. 4 AC yn llai?? 17 AC oedd gan y Blaid yn 1999, mae ganddi 15 yn 2007 = -2.

    ReplyDelete