14/04/2007

Ymosodiadau hiliol. Un ffiaidd ac un darbwyllol

Dydd Mercher diwethaf adroddwyd am ymosodiad ffiaidd ar ddynes oedd yn mynd a'i phlentyn blwydd oed am dro yn ei phram trwy barc yng Nglasgow.

Taflwyd cerrig ati gan bedwar glaslanc, gorfodwyd y ddynes i'r llawr a chafodd ei chicio yn ei phen. Ymosodwyd ar y fam mewn modd rhywiol ac yna bu ymgais gan un o'r llanciau i ymosod yn rhywiol ar y babi bach. Er na lwyddodd y llabwst anghall yn ei ymgais, cafodd y babi druan ei chleisio'n ddifrifol. Yn ffodus fe lwyddodd y fam i achub y plentyn a ffoi oddi wrth yr ymosodwyr am eu heinioes.

Be sydd gan hyn i wneud a gwleidyddiaeth Cymru? meddech.

Hyn:

Mi glywais am yr ymosodiad ciaidd yma ar y ddynes o Algeria a'i phlentyn ar newyddion yr Alban wrth geisio cadw golwg ar hynt a helynt etholiadol yr SNP. Heno ar ôl newyddion yr Alban darlledwyd Darllediad Gwleidyddol gan y BNP ar gyfer Senedd yr Alban.

Roedd y darllediad yn rhesymegol, yn ddarbwyllol, yn llawn perswâd ac yn ddeniadol ei ddadl. Ond neges resymegol y blaid ffiaidd yma yn erbyn mewnfudwyr croenddu oedd yr un neges ar un a roddwyd, mewn modd mor di-drugaredd, i'r fam ifanc a'i baban bach diniwed yn y parc yng Nglasgow

Dydy Darllediad Gwleidyddol y BNP yng Nghymru heb ymddangos eto, fe ddaw yn ystod y dyddiau nesaf. Mae'n siŵr y bydd mor slic ac apelgar a'r darllediad Albanaidd.

Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn sicrhau bod pobl Cymru yn hollol ymwybodol mae ffieidd-dra hiliol a threisiol yw gwir neges y BNP, nid y ffug neges neis-neis a chaiff ei mynegi ar y darllediad swyddogol.


Mwy am ymgyrch y BNP yn etholiadau lleol Lloegr

1 comment:

  1. Anonymous4:06 pm

    Fe wnes i bostio ffigyrau gan Guto Thomas ar fy mlog ddoe ynghylch faint o bleidleisiau sydd e hangen i gymryd sedd ranbarthol yn y cynulliad. Dyw'n meddwl bod hi yn bosib y gallai'r BNP lwyddo i wneud hynny. Derbyniodd y Blaid 27,235 o bleidleisiau yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropaidd. fe fyddai dyblu hynny bron yn ddigon i gael seddi yn y bae
    Vaughan

    ReplyDelete