18/04/2007

Rhaid cael Barn yn Nhesco

Mi fûm i Landudno'r bore 'ma yn unswydd i brynu copi o'r rhifyn cyfredol o'r cylchgrawn Barn. Yn anffodus doedd dim copi ar gael yn Siop Na Nog. Bydd rhaid imi wneud taith hirach yfory i Lanrwst i geisio copi o'r cylchgrawn yn Siop Bys a Bawd.

Y rheswm am fy mrwdfrydedd dros godi copi o Barn yw fy mod ar ddeall bod sylwadau a wnaed gennyf am archfarchnad Tesco yn codi o drafodaeth a fu ar Faes-e cyn y Nadolig wedi eu cyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf.

Os ydy'r erthygl yn driw i'r farn a mynegais mi fydd yn dadlau bod Cymreigio'r Archfarchnadoedd yn bwysicach na cheisio cadw'r siopau bach. Mae fy anawsterau wrth geisio copi o'r cylchgrawn, er mwyn gweld fy erthygl, yn brawf o hyn.

Pan oeddwn yn byw yn Llanrwst 10 mlynedd yn ôl roedd Siop Bys a Bawd yn gyfleus iawn, jest rownd y gornel. Byddwn yn pigo'i fewn yn rheolaidd ac yn prynu ambell i gylchgrawn Cymraeg yn rheolaidd. Barn, Y Faner Newydd, Y Cylchgrawn Efengylaidd, Llafar Gwlad, Fferm a Thyddyn ac ati. Bellach Golwg yw'r unig gylchgrawn Cymraeg byddwyf yn ei ddarllen yn rheolaidd am y rheswm syml mae Golwg yw'r unig gylchgrawn Cymraeg sydd ar werth yn Tesco.

Mae'r un yn wir am lyfrau Cymraeg. Pan oedd Siop Lyfrau Cymraeg yn gyfleus i'm cartref byddwn yn prynu llyfrau Cymraeg gyda chlawr neu gyflwyniad apelgar ar hap. Heb fod Siop Lyfrau Cymraeg yn gyfleus dim ond llyfrau yr wyf wir yrr yn awchu i'w darllen byddwyf yn mynd allan o'm ffordd i'w prynu.

Rwy'n siŵr nad ydwyf yn unigryw ymysg darllenwyr Cymraeg yn hyn o beth.

Os ydym am godi cylchrediad cylchgronau Cymraeg a sicrhau mwy o werthiant ar lyfrau Cymraeg; os ydym am sicrhau bod Cymry Cymraeg a dysgwyr yn defnyddio ac yn magu hyder yn eu defnydd o'r Gymraeg trwy ei ddarllen yn rheolaidd, mae'n rhaid sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael yn gyfleus i bawb, yn hytrach na'n gyfleus i'r ychydig sy'n byw yn ymyl Siop Cymraeg yn unig. Yr unig ffordd i sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael yn gyfleus i bawb yw trwy sicrhau bod y deunydd yna ar gael yn yr Archfarchnadoedd.

O ddewis gweld y wasg Gymraeg yn ffynnu trwy ehangu argaeledd deunydd Cymraeg yn gyfleus i bawb, neu ei weld yn cael ei dagu er mwyn cadw un neu ddau o siopau bach anghyfleus yn fyw - rwyf yn sicr o blaid yr ehangu.

1 comment:

  1. Mae hyn yn sefyllfa anodd ond teg.

    Un o'r amodau cynllunio a ddisgynnodd ar Tesco cyn agor yn Abergele, oedd nad oeddent yn cael gwerthu papurau a chylchgronau 'lleol', i sicrhau fod busnes yn parhau yn y siopau bapur newydd lleol.

    ReplyDelete