15/04/2007

Hysbysebion Saesneg Alun Ffred

Mae Martin Eaglestone yn tynnu sylw at yr erthygl yma yn y Western Mail:

LABOUR has called on Cymdeithas yr Iaith and Plaid Cymru to organise a picket at the campaign office of the Plaid candidate for Arfon.
The call came in response to Alun Ffred Jones's decision to take adverts in a local paper in English only. Now Labour's Martin Eaglestone, who will contest the seat on May 3, has called for Plaid Cymru and the language pressure group to organise a protest.
Mr Eaglestone said, "I have been a Welsh learner so I understand that bilingual material is really important in Arfon. I fail to understand why Plaid Cymru has not produced bilingual adverts.
Mr Jones, who is AM for the Caernarfon constituency which will disappear after boundary changes, countered by saying, "In four of the local Welsh language papurau bro we have printed Welsh-only adverts.


Rhaid cyfaddef fy mod innau hefyd yn teimlo yn anghynnes braidd am benderfyniad Alun Ffred (o bawb) i gyhoeddi hysbysebion uniaith Saesneg.

Prin fod y ddadl bod hysbysebion yn y Papurau Bro i'w cyhoeddi yn uniaith Gymraeg yn dal dŵr fel cyfiawnhad dros hysbysebion uniaith Saesneg mewn papurau lleol Saesneg sydd yn cael eu darllen gan niferoedd o bobl Cymraeg eu hiaith, a lle fu hysbysebion cyhoeddus dwyieithog yn "norm" ers sawl flwyddyn.

Yr hyn sydd yn fy nghorddi, ta waeth, yw'r ffordd mae Martin Eaglestone yn cam-ddefnyddio achos yr iaith dim ond er mwyn achub cyfle i ladd ar wrthwynebydd gwleidyddol.

Pe bai Eaglestone, wir yr, yn credu bod Alun Ffred wedi gwneud cam a'r iaith mi fyddai'r un mor llawdrwm ar y sawl yn ei blaid ef ei hun sydd yn dangos diffyg parch i'r iaith - gan gynnwys Alun Pugh (gweinidog, honedig, yr iaith Gymraeg).

Os yw Eaglestone yn credu ei fod yn iawn i bicedu swyddfeydd y Blaid yn Arfon i brotestio yn erbyn y sarhad honedig i'r iaith gan Alun Ffred pam na welwyd o'n picedu, na chwyno, nac ymgyrchu yn erbyn unrhyw sarhad arall tuag at yr iaith Gymraeg?

Os ydy Martin Eaglestone mor frwdfrydig dros ehangu defnydd yr iaith paham ei fod yn sefyll etholiad ar faniffesto'r unig blaid sy'n gwrthod deddf iaith newydd?

Nid oportiwnistiaeth etholiadol yw cefnogi'r iaith Gymraeg, Martin bach, ond ymrwymiad.

Mae ymrwymiad Alun Ffred a Phlaid Cymru, ymrwymiad Glyn Davies a'r Blaid Geidwadol ac ymrwymiad Elinor Burnham a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r iaith canwaith mwy nag ydy unrhyw ymrwymiad gan neb o'r Blaid Lafur - gan gynnwys Martin Eaglestone a'i bos Rhodri mae'r Iaith yn boring Morgan!

2 comments:

  1. Dw i'n meddwl bod gwir agwedd Martin Eaglestone tuag at y Gymraeg yn cael ei grynhoi yn y ffaith fod ei flog etholiadol ei hun yn uniaith Saesneg...

    ReplyDelete
  2. Ond os oes achos dros Deddf iath newydd mae'r weithred yma yn y Fro Gymraeg yn rhoi neges hollol gwahannol.

    Nid fi sydd yn gofyn am deddf iaith. "But musn't frighten people in Bangor" dwi'n siwr.

    ReplyDelete