29/04/2007

Etholiad Cymru'n Ddibwys medd Gordon Brown

Y peth sydd yn debygol o wneud y niwed mwyaf i Lafur dydd Iau nesaf bydd cefnogwyr y Blaid Lafur yn aros adre yn hytrach na bwrw eu pleidlais. Mae Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur yn gwybod hyn - dyna paham y maent wedi gwario y rhan fwyaf o'u hamser canfasio yn ceisio annog eu cefnogwyr i ymweld â'r gorsafoedd pleidleisio yn hytrach cheisio troi cefnogwyr y pleidiau eraill at eu hochor hwy.

Ond waeth i'r Llafurwyr cyndyn aros adre, gan nad yw etholiadau'r Cynulliad yn bwysig yn ôl darpar arweinydd newydd y Blaid Lafur Prydeinig. Dim ond etholiadau San Steffan sydd yn bwysig.

Dyma union eiriau'r Canghellor / darpar Prif Weinidog yn ôl adroddiad yn yr Observer:

Look, the only result that matters in the end is when it actually comes to a general election and people decide what they want to do.


Y ffordd gorau i brofi i Gordon haerllug bod etholiadau Cymru yn bwysig i'r sawl sy'n poeni am gyflwr iechyd Cymru, cyflwr addysg Cymru, cyflwr yr economi Gymreig a dyfodol ein gwlad yw trwy fynd allan yn ein miloedd dydd Iau nesaf i bleidleisio dros Blaid Cymru a chael gwared â'r blaid sydd yn credu bod barn pobl Cymru yn ddibwys.

English: Miserable Old Fart: Assembly Election Unimportant says Gordon Brown

1 comment:

  1. Gobeithio bydd gwleidyddion y Blaid a'r SNP wedi pigo fyny ei sylwadau bore ma ac yn defnyddio nhw ar y teledu.

    Sut ma pethau'n mynd y Aberconwy ydy Gareth Jones am gael mewn. Pleidleisiodd fy rhieni drosto ddoe ma nhw fel arfer yn cefnogi Llafur.

    ReplyDelete