01/03/2007

Gwell Cymraeg Cac na Saesneg Da!

Cefais fy magu ar aelwyd Saesneg ei iaith mewn cymdeithas Cymraeg. Rwy'n siarad Cymraeg oherwydd fy mod wedi dysgu Cymraeg. Mae'r dysgu yn rhoi hyder imi (mae gennyf esgus am bob camgymeriad).
Dydy llythyrau fel hwn yn y Western Mail yn cael dim effaith arnaf gan fod gorchudd y dysgwr gennyf:
Sglodion, not chips
SIR
- On February 23, one of your correspondents (with a name which
suggests affiliation to Plaid Cymru and/or the Welsh Language
Society) wrote a letter decrying the use of English words when
speaking Welsh.This, to me, reeks of hypocrisy and bad manners

This is not a new problem and has been very prevalent on that
so-called bastion of the Welsh language known as S4C.

A while ago this station carried a comparatively long series
of programmes about the short life of the Welsh Language Society.

One of these programmes concerned the sign-daubing campaign
where names like Wenvoe, Pentremeyrick and Caernarvon were left
untouched.
The Welsh Language Society activist who was taking part in the
programme spoke of how, in the early days of the organisation,
the office used to smell of "chips" - a product for
which there is a good Welsh name ( which is sglodion).

TUDOR RADCLIFFE
Pontycymer, Bridgend


Mae llythyrau o'r fath yma yn awgrymu mae Cymraeg Pur yw'r unig Gymraeg derbyniol, ac yn gwneud i nifer o Gymry Cymraeg naturiol ymwrthod a'r iaith o dan y teimlad nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.

Mae erthygl yn y Telegraph heddiw yn awgrymu bod yna brychau yn Saesneg Saeson uniaith hefyd, ond prin eu bod am wrthod siarad Saesneg gan nad ydyw eu Saesneg yn ddigon dda.

I achub yr iaith mae gymaint o angen magu hyder Cymry Cymraeg naturiol i ddefnyddio'r iaith yn wael a sydd i annog pobl di Gymraeg i'w dysgu'n dda.

Defnyddio'r Gymraeg sy'n bwysig, nid perffeithrwydd iaith.

Hwyrach nad ydyw dweud Nes i enjoyo bowl o stroberis a crim yn Gymraeg digon da i Mr Radcliffe, ond mae o'n cam gyntaf at ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn well na throi at y Saesneg o dan ormes "Cymraeg Pur" gwrthwynebwyr yr Iaith megis Tudor Radcliffe

Gwell Cymraeg cac na Saesneg Da!

2 comments:

  1. Cytuno'n llwyr efo ti Hen Rech! Y ffaith ein bod yn siarad a sgwennu'n Gymraeg sy'n bwysig . Cofia di , mae Nghymraeg i'n dueddol o newid wrth i mi siarad efo pobl gwahanol. Dwi'n defnyddio lot o'r iaith fain pan fyddaf yn sgwennu at fy ffrind gora, ond yn trio defnyddio fy Nghymraeg gorau pan dwi'n ymateb i rai o edefynion maes-e. Ond be di'r ots rili, pan mae awduron Cymraeg yn cynnwys gymaint o Saesneg neu eiriau Saesneg wedi eu Cymreigio debyg i 'hilarîys' .
    Neis gweld blog gennyt...da iawn ti . 'Rwyt yn fwy mentrus na fi!

    ReplyDelete
  2. Wel dywedodd Ifor ap Glyn yn ei gyfres Popeth yn Gymraeg. Mae iaith yn cael ei golli fesul gair yn ôl rhai, felly rhaid gwneud yr ymdrech i'w hadennill fesul gair.

    Hwn yw'r cam cyntaf. Cael pobl yn defnyddio un neu ddau. Wedyn pan mae sawl miliwn o dan ein hadain, cawn ganolbwyntio ar y gloywi. ;-)

    ReplyDelete