23/03/2007

Golwg "Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno"

Bu gyfraniad o'm heiddo ar Maes-e yn achos erthygl yn y rhifyn cyfredol o Golwg

Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno

Mae pregethwr wedi danfon cwyn at y Comisiwn Etholiadol, gan honni fod plaid Gristionogol newydd yn bygwth y cyhoedd â thragwyddoldeb yn uffern os na fydda nhw'n pleidleisio trosti fis Mai.

Fe gafodd Plaid Gristionogol Cymru ei lawnsio ar Fawrth 1 eleni, ac mae hi eisioes wedi achosi dadl trwy ddweud y dylai Cymru fabwysiadu baner newydd oherwydd bod y ddraig yn cynrychioli'r diafol

Ond yn ôl Alwyn ap Huw, pregethwr cynorthwyol gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, mae'r blaid yn rhoi enw drwg i Gristionogion. Dyna pam ei fod wedi cwyno wrth y Comisiwn, meddai, yn ogystal â rhybuddio Cristionogion eraill rhag pleidleisio i'r blaid newydd heb astudio ei pholisïau yn ofalus.

"Mae'r ddeddf yn ddigon clir nad yw'n gyfreithlon bygwth pobl gyda chosb ar y ddaear neu yn y bywyd nesa' yn gyfnewid am beidio â phleidleisio drostyn nhw" meddai Alwyn ap Huw, sy'n byw yn nyffryn Conwy.

"Mae Plaid Gristionogol Cymru wedi dweud yn ddigon clir y bydd Cymru gyfan yn mynd i'r uffern oherwydd bod delwedd y diafol ar ein fflag. Fel Cristion, fydda'i byth y pleidleisio dros y rhain, a dwi'n gobeithio na fydd neb arall chwaith"

"Dydi Cristionogaeth y Blaid yma ddim yn nhraddodiad Cristionogaeth Cymru" meddai wedyn. "Un o gefnogwyr Ian Paisley ydi George Hargraves (un o arweinyddion y blaid) ac mae ei Gristionogaeth o'n debycach i hwnnw o dde eithafol America"

Yn ôl George Hargraves, mae'r ddraig goch ar fflag Cymru'n debyg i'r hon sy'n cael ei disgrifio yn Llyfr Datguddiad yn y Beibl - "a dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a saith coron ar ei phennau"

Mae'n dweud y dylai'r fflag gael ei chyfnewid am faner Dewi Sant, ac mae wedi lawnsio deiseb yn cefnogi hynny ar wefan y blaid.

Mae'r blaid yn gobeithio cynnig ymgeiswyr ym mhob rhanbarth yn etholiadau'r cynulliad ar Fai 3.

George Hargraves oedd awdur y gân ddisgo o'r 1980au "So Macho" a breindaliadau'r gân honno sydd yn ariannu'r blaid newydd.


Ond peidiwch â choelio pob dim a darllenwch yn y wasg. Byddai'r Hen Rech Flin byth yn cyfeirio at faner Cymru fel "fflag", a phregethwr gyda'r Eglwys Fethodistaidd ydwyf - Wesla hyd fêr fy esgyrn - nid aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd.

3 comments:

  1. Tra'n darllen y dyfyniad, oeddwn i'n meddwl ei fod yn anghywir, a'ch bod yn enwad wahanol i'r Bresbyteriaid.

    ReplyDelete
  2. Hmm. os ydi hyn mor bwysig, ti'n meddwl fysa nhw wedi arwyddo deiseb eu hunain?

    0 enw ar 23/03.

    ReplyDelete
  3. George Hargraves oedd awdur y gân ddisgo o'r 1980au "So Macho" a breindaliadau'r gân honno sydd yn ariannu'r blaid newydd.

    Ydy hyn yn wir? Nawr dw i'n gwybod bod y "Blaid" yma yn jôc gan rhyw griw o Situationalists.

    Ond na, fe'i Gwglwyd:

    The ex-songwriter and promoter admits to a colourful life in the music industry but has since seen the ‘error’ of his ways; "I was a hedonistic sinner. I was Jack the lad. But there came a point when I looked at myself. I was calling myself a Christian but not living the Christian life. I read a Bible from cover to cover and I changed my life."

    Ond ddim cymaint i'w wneud e roi'r arian i ffwrdd na dim byd. Rhaid fod e wedi neidio dros adnod neu ddau.

    Hwn yw'r peth mwya doniol dw i wedi darllen ers meityn. Diolch Alwyn :-)

    ReplyDelete