15/03/2007

DIM CYMRAEG! - Canolfan Byd Gwaith

Cefais brofiad anghynnes iawn heddiw yng Nghanolfan Byd Gwaith Bae Colwyn. Roeddwn am godi ffurflen o'r ganolfan ar gyfer cymydog anabl. Dyma fynd at y cyfarchydd a gofyn iddi yn y Gymraeg os oedd modd cael copi o'r ffurflen. Ei hymateb oedd I don't speak Welsh, roedd lleferydd ei chorff a'i goslef wrth roi ei hymateb yn hynod ymosodol.

Mi ofynnais iddi i yn fy Saesneg parchusaf, Can you please find a member of staff who can speak Welsh?

No! Nobody here speaks Welsh. Speak English or get out oedd ei hymateb.

Nid ydwyf wedi derbyn y fath ymateb gwrth Gymraeg mewn swyddfa lywodraethol ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Roeddwn yn credu bod y fath beth yn perthyn i oes yr arth a'r blaidd. Cefais fy syfrdanu.

Yr wyf, wrth gwrs, wedi gwneud cwynion i'r awdurdodau priodol ac yn disgwyl eu hymateb. Ond cyfyd agwedd y ddynes nifer o gwestiynau:

* Pam bod person di Gymraeg yn cael swydd fel cyfarchydd mewn swyddfa'r llywodraeth sydd yn gwasanaethu ardal Gymraeg?

* Pam nad oes neb sy'n siarad y Gymraeg ar gael mewn swyddfa mor fawr?

* Hyd yn oed os oes resymau am ddiffyg siaradwr Cymraeg yn yr adran gyfan, pam na hyfforddwyd y ddynes yma i ymdrin â chwsmeriaid Cymraeg gyda pharch a chwrteisi?

* Ac yn bwysicaf oll pam bod pobl efo'r fath agwedd yn cael eu cyflogi mewn Canolfan Gwaith, o bobman, tra bod Cymry Cymraeg digon atebol i gyflawni'r swydd yn ddi-waith, ac yn gorfod wynebu'r fath haerllugrwydd er mwyn chwilio am waith?

3 comments:

  1. Cafodd ffrind i mi brofiad tebyg pan gollodd ei waith. Aeth i'w Ganolfan Byd Gwaith lleol yng Nghaerffili i gofrestru a threfnu cyfweliad. Gofynodd am gyfweliad yn Gymraeg am gofynodd yr aelod staff "Pam?"

    Nid yw swyddfa Caerffili yn gwasnaethu ardal mor Gymraeg a Bae Colwyn, ond cafodd fy ffrind ei eni a'i fagu yn y dref a Chymraeg ydi iaith ei gartref a dylai staff mewn swyddi cyhoeddus (a phobl yng Nghymru'n gyffredinol) drin y Gymraeg gyda pharch.

    ReplyDelete
  2. Gwarthus, rhaid cael ymddiheuriad swyddogol am y fath sarhad!

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:12 pm

    Roedd y Ganolfan Waith yn Llandysul yr un peth.....yn ol yr ystadegau - tref a'r cyfran mwya o Bymraeg yng Ngheredigion. Dwi ddim yn siwr os yw'r swyddfa hyn wedi cai nawr. Wrth-gwrs, mi roedd Aberteifi fawr gwell y tro ddiwetha i mi fod yno ond mae hyn rhai blynydde'n ol erbyn hyn!

    ReplyDelete