17/03/2007

Ariannu Pleidiau Gwleidyddol

Croeso llugoer braidd sydd gennyf i awgrymiadau Syr Hayden Phillips ar ariannu pleidiau gwleidyddol.

Rwy'n derbyn yr awgrymiad dylid cael uchafswm ar faint gall unigolyn cyfrannu at blaid.

Ym 1997 cafwyd honiad bod rasio ceir fformiwla un wedi ei hepgor o'r gwaharddiad ar gwmnïau baco rhag noddi campau o ganlyniad i rodd o filiwn gan Bernie Ecclestone i'r Blaid Lafur. Mae'r ymchwiliad i'r posibilrwydd bod anrhydeddau wedi eu rhoi fel wobr am roddion i bleidiau gwleidyddol yn dal i fynd rhagddi. Hyd yn oed os nad oes sail i'r honiadau yma a honiadau tebyg mae'r amgyffred bod modd prynu dylanwad ar blaid neu lywodraeth yn ddigon o reswm i wahardd rhoddion mawr.

Yr hyn sydd yn annerbyniol i mi yw argymhelliad Syr Hayden y dylid gwneud iawn i'r pleidiau am golli eu noddwyr mawr trwy dalu hyd at £23 miliwn iddynt allan o bwrs y wlad. Dydy 23 miliwn ddim yn swm enfawr o ran trethiant, ond eto, fel pob treth mae'n dod o arian sydd wedi ei gyfrannu gan drethdalwyr. Â ydyw’n iawn i ofyn i drethdalwyr talu i gynnal pleidiau na allant mo'u dioddef? Yn sicr nid ydwyf am gyfrannu dime i'r Blaid Lafur ac yn sicrach byth byddwn yn ffieiddio pe bai'r cyfraniad lleiaf o'm henillion yn cael ei rhoi i'r BNP. Ond dyma fydd yn digwydd os ydy'r trethdalwyr yn cael eu gorfodi i ariannu'r pleidiau gwleidyddol.

Un o'r rhesymau pam bod gwell gan y pleidiau cwrsio £5,000,000 gan unigolyn yw ei fod yn haws na cheisio cael miliwn o unigolion i gyfrannu £5. Ond mae gorfodi plaid i geisio cael y £5 yn hytrach na'r arian mawr yn cysylltu'r bobl a'r broses wleidyddol.

Pan oeddwn yn dechrau ymddiddori yn y byd gwleidyddol roedd rhaid cynnal garddwest neu fore coffi neu arwerthiant geriach i godi arian i'r achos. Roedd rhaid i'r ymgeisydd lleol mynychu pob digwyddiad o'r fath, a thrwy hynny, bod yn gyraeddadwy i'w gefnogwyr. Roedd barn y bobl bach oedd yn trefnu ac yn cefnogi'r fath digwyddiadau, hefyd, yn bwysig o fewn y pleidiau; ac o fod yn bwysig yn ddylanwadol.

Rwy'n cytuno efo capio cyfraniadau, ond llawer gwell gennyf bydda weld y gwleidyddion yn mynd yn ôl i'r hen drefn o orfod fy mherswadio i weld gwerth cefnogi'r blaid gyda fy arian prin yn hytrach na chael fy ngorfodi i'w cefnogi trwy fy nhaliadau treth.

English Miserable Old Fart: Political Party Funding

1 comment:

  1. Anonymous9:14 am

    Cytuno. Pam ddylwn i roi arian i blaid nad ydw i'n ei chefnogi? Ac fe fyddai hyd yn oed cael dewis o blaid yn groes i'r rhai sydd ddim yn hoffi unrhyw blaid. Mae hynny yn fy atgoffa o dreth yr eglwysi yn yr Almaen, lle mae pobl yn gorfod dewis rhwng talu i'r Eglwys Gatholig a thalu i Eglwys Brotestannaidd yr Almaen. A pheth arall yw'r ffaith nad ydyn ni'n cael gwerth ein ceiniogau yma ym Mhrydain beth bynnag ydy'r dreth!

    ReplyDelete