30/03/2007

Plaid Cymru - Plaid Meirion?

Ar bapur, etholaeth Dwyfor Meirion yw'r un fwyaf diogel yng Nghymru. Yn fwy diogel i'r Blaid nag oedd rhai o etholaethau'r De, lle bu son am bwyso yn hytrach na chyfrif y bleidlais Lafur yn yr hen ddyddiau. Bydda bleidlais o lai na 60% i Blaid Cymru yn yr etholaeth newydd yma yn siomedig i'r Blaid yn ddi-os.

Ond glywaf gwynion yn yr etholaeth, yn arbennig yn rhanbarth Meirionnydd.

Bu pobl Meirionydd yn siomedig ers 1974 bod yr hen sir wedi ei draflyncu i mewn i Wynedd, ac mae amheuaeth gref wedi bod ers hynny mae Sir Gaernarfon sydd yn cael y ffafriaeth yng Ngwynedd. Mae'r teimlad o annhegwch yn cael ei gryfhau gan enw'r etholaeth newydd. Dwyfor sy'n gyntaf a chynffon yw Meirion.

Bydd yr anniddigrwydd dim yn ddigon i golli'r etholaeth i'r Blaid. Ond os bydd nifer o bleidleiswyr traddodiadol y Blaid ym Meirionnydd mor flin ag i anwybyddu etholiadau'r Cynulliad, fel yr ydynt (yn ôl yr hyn a glywaf) fe all cael effaith ar obeithion cyffredinol y Blaid.

Mae Llanelli yn yr un rhanbarth a Dwyfor Meirion. O ennill yn Llanelli, bydd Plaid Cymru yn ddibynnol ar bleidlais sbâr Dwyfor-Meirion er mwyn ennill un, neu ragor, o seddau rhanbarthol; ac yn ddibynnol ar y sedd / seddi rhanbarthol yna er mwyn parhau a'i obeithion i ffurfio Llywodraeth yn y Bae.

Mae gan Dafydd Êl job o'i flaen i brofi i bobl Meirion eu bod yn bwysig o hyd. Mae gan y Blaid ym Meirion job i ddangos i'w cefnogwyr nad oes modd llaesu dwylo na bod yn biwis - i Blaid Cymru mae pob bleidlais yn bwysig eleni - hyd yn oed mewn ardal môr gref i'r Blaid a'r hen Sir Feirionnydd!

27/03/2007

Darllediadau PPB

Er fy mod yn sgit am wleidyddiaeth rwyf wastad wedi credu mai'r peth mwyaf diflas mewn pob ymgyrch etholiad fu'r Darllediad Gwleidyddol. Er, o ddweud hynny, mae un neu ddau yn sefyll yn y cof John Major the Movie er enghraifft.

Roedd y darllediadau parthed y gyllideb yn andros o ddiflas. O ran y rhai Cymraeg, pob un wedi eu ffilmio yn yr un ystafell, ond efo bwnsh o flodau gwahanol.

Gan Mike German oedd y blodau gorau. Y cwestiwn mawr yw pwy oedd yn gyfrifol am y blodau? A oes brawf o feias cyfryngol gan fod Mike wedi cael gwell flodau na chafodd Elfyn?

Yn ystod y deuddydd diwethaf yr wyf wedi gweld dau ddarllediad gwleidyddol sydd yn ymylu ar newid fy meddwl am werth y fath bethau. Y gyntaf yw un swyddogol Plaid Cymru

Hysbyseb gwleidyddol effeithiol, yn hytrach na darllediad gwleidyddol boring. Rwy'n ansicr o'r rheolau am ddarllediadau gwleidyddol, ond os oes modd, mi fyddwn yn awgrymu bod y Blaid yn ail-ddarlledu'r un hysbyseb ym mhob un o'i slotiau PPB rhwng hyn a'r etholiad.

Mae'r ail, er yn andros o amaturaidd o ran ei ffilmio, yn ddarllediad ysgytwol ei neges. Sef ymgais answyddogol gan gefnogwr i Blaid Cymru (rwy'n tybio) i ymosod ar Welsh Labour. Rwy'n amau mae dim ond y rhai sydd yn sicr o'u barn wleidyddol sydd yn ymweld â safleoedd o'r fath, ac mae prin bydd yr ennill eneidiau o'r ddarllediad yma - ond os wyt yn gwrthwynebu'r Blaid Lafur (boed PC, Ceid neu RhyddD) bydd gweld y fidio yn ddigon i roi tân yn eich bol i weld mor hanfodol yw dyblu eich ymgyrchu er mwyn prysuro tranc Welsh Labour.

23/03/2007

Golwg "Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno"

Bu gyfraniad o'm heiddo ar Maes-e yn achos erthygl yn y rhifyn cyfredol o Golwg

Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno

Mae pregethwr wedi danfon cwyn at y Comisiwn Etholiadol, gan honni fod plaid Gristionogol newydd yn bygwth y cyhoedd â thragwyddoldeb yn uffern os na fydda nhw'n pleidleisio trosti fis Mai.

Fe gafodd Plaid Gristionogol Cymru ei lawnsio ar Fawrth 1 eleni, ac mae hi eisioes wedi achosi dadl trwy ddweud y dylai Cymru fabwysiadu baner newydd oherwydd bod y ddraig yn cynrychioli'r diafol

Ond yn ôl Alwyn ap Huw, pregethwr cynorthwyol gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, mae'r blaid yn rhoi enw drwg i Gristionogion. Dyna pam ei fod wedi cwyno wrth y Comisiwn, meddai, yn ogystal â rhybuddio Cristionogion eraill rhag pleidleisio i'r blaid newydd heb astudio ei pholisïau yn ofalus.

"Mae'r ddeddf yn ddigon clir nad yw'n gyfreithlon bygwth pobl gyda chosb ar y ddaear neu yn y bywyd nesa' yn gyfnewid am beidio â phleidleisio drostyn nhw" meddai Alwyn ap Huw, sy'n byw yn nyffryn Conwy.

"Mae Plaid Gristionogol Cymru wedi dweud yn ddigon clir y bydd Cymru gyfan yn mynd i'r uffern oherwydd bod delwedd y diafol ar ein fflag. Fel Cristion, fydda'i byth y pleidleisio dros y rhain, a dwi'n gobeithio na fydd neb arall chwaith"

"Dydi Cristionogaeth y Blaid yma ddim yn nhraddodiad Cristionogaeth Cymru" meddai wedyn. "Un o gefnogwyr Ian Paisley ydi George Hargraves (un o arweinyddion y blaid) ac mae ei Gristionogaeth o'n debycach i hwnnw o dde eithafol America"

Yn ôl George Hargraves, mae'r ddraig goch ar fflag Cymru'n debyg i'r hon sy'n cael ei disgrifio yn Llyfr Datguddiad yn y Beibl - "a dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a saith coron ar ei phennau"

Mae'n dweud y dylai'r fflag gael ei chyfnewid am faner Dewi Sant, ac mae wedi lawnsio deiseb yn cefnogi hynny ar wefan y blaid.

Mae'r blaid yn gobeithio cynnig ymgeiswyr ym mhob rhanbarth yn etholiadau'r cynulliad ar Fai 3.

George Hargraves oedd awdur y gân ddisgo o'r 1980au "So Macho" a breindaliadau'r gân honno sydd yn ariannu'r blaid newydd.


Ond peidiwch â choelio pob dim a darllenwch yn y wasg. Byddai'r Hen Rech Flin byth yn cyfeirio at faner Cymru fel "fflag", a phregethwr gyda'r Eglwys Fethodistaidd ydwyf - Wesla hyd fêr fy esgyrn - nid aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd.

17/03/2007

Ariannu Pleidiau Gwleidyddol

Croeso llugoer braidd sydd gennyf i awgrymiadau Syr Hayden Phillips ar ariannu pleidiau gwleidyddol.

Rwy'n derbyn yr awgrymiad dylid cael uchafswm ar faint gall unigolyn cyfrannu at blaid.

Ym 1997 cafwyd honiad bod rasio ceir fformiwla un wedi ei hepgor o'r gwaharddiad ar gwmnïau baco rhag noddi campau o ganlyniad i rodd o filiwn gan Bernie Ecclestone i'r Blaid Lafur. Mae'r ymchwiliad i'r posibilrwydd bod anrhydeddau wedi eu rhoi fel wobr am roddion i bleidiau gwleidyddol yn dal i fynd rhagddi. Hyd yn oed os nad oes sail i'r honiadau yma a honiadau tebyg mae'r amgyffred bod modd prynu dylanwad ar blaid neu lywodraeth yn ddigon o reswm i wahardd rhoddion mawr.

Yr hyn sydd yn annerbyniol i mi yw argymhelliad Syr Hayden y dylid gwneud iawn i'r pleidiau am golli eu noddwyr mawr trwy dalu hyd at £23 miliwn iddynt allan o bwrs y wlad. Dydy 23 miliwn ddim yn swm enfawr o ran trethiant, ond eto, fel pob treth mae'n dod o arian sydd wedi ei gyfrannu gan drethdalwyr. Â ydyw’n iawn i ofyn i drethdalwyr talu i gynnal pleidiau na allant mo'u dioddef? Yn sicr nid ydwyf am gyfrannu dime i'r Blaid Lafur ac yn sicrach byth byddwn yn ffieiddio pe bai'r cyfraniad lleiaf o'm henillion yn cael ei rhoi i'r BNP. Ond dyma fydd yn digwydd os ydy'r trethdalwyr yn cael eu gorfodi i ariannu'r pleidiau gwleidyddol.

Un o'r rhesymau pam bod gwell gan y pleidiau cwrsio £5,000,000 gan unigolyn yw ei fod yn haws na cheisio cael miliwn o unigolion i gyfrannu £5. Ond mae gorfodi plaid i geisio cael y £5 yn hytrach na'r arian mawr yn cysylltu'r bobl a'r broses wleidyddol.

Pan oeddwn yn dechrau ymddiddori yn y byd gwleidyddol roedd rhaid cynnal garddwest neu fore coffi neu arwerthiant geriach i godi arian i'r achos. Roedd rhaid i'r ymgeisydd lleol mynychu pob digwyddiad o'r fath, a thrwy hynny, bod yn gyraeddadwy i'w gefnogwyr. Roedd barn y bobl bach oedd yn trefnu ac yn cefnogi'r fath digwyddiadau, hefyd, yn bwysig o fewn y pleidiau; ac o fod yn bwysig yn ddylanwadol.

Rwy'n cytuno efo capio cyfraniadau, ond llawer gwell gennyf bydda weld y gwleidyddion yn mynd yn ôl i'r hen drefn o orfod fy mherswadio i weld gwerth cefnogi'r blaid gyda fy arian prin yn hytrach na chael fy ngorfodi i'w cefnogi trwy fy nhaliadau treth.

English Miserable Old Fart: Political Party Funding

15/03/2007

DIM CYMRAEG! - Canolfan Byd Gwaith

Cefais brofiad anghynnes iawn heddiw yng Nghanolfan Byd Gwaith Bae Colwyn. Roeddwn am godi ffurflen o'r ganolfan ar gyfer cymydog anabl. Dyma fynd at y cyfarchydd a gofyn iddi yn y Gymraeg os oedd modd cael copi o'r ffurflen. Ei hymateb oedd I don't speak Welsh, roedd lleferydd ei chorff a'i goslef wrth roi ei hymateb yn hynod ymosodol.

Mi ofynnais iddi i yn fy Saesneg parchusaf, Can you please find a member of staff who can speak Welsh?

No! Nobody here speaks Welsh. Speak English or get out oedd ei hymateb.

Nid ydwyf wedi derbyn y fath ymateb gwrth Gymraeg mewn swyddfa lywodraethol ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Roeddwn yn credu bod y fath beth yn perthyn i oes yr arth a'r blaidd. Cefais fy syfrdanu.

Yr wyf, wrth gwrs, wedi gwneud cwynion i'r awdurdodau priodol ac yn disgwyl eu hymateb. Ond cyfyd agwedd y ddynes nifer o gwestiynau:

* Pam bod person di Gymraeg yn cael swydd fel cyfarchydd mewn swyddfa'r llywodraeth sydd yn gwasanaethu ardal Gymraeg?

* Pam nad oes neb sy'n siarad y Gymraeg ar gael mewn swyddfa mor fawr?

* Hyd yn oed os oes resymau am ddiffyg siaradwr Cymraeg yn yr adran gyfan, pam na hyfforddwyd y ddynes yma i ymdrin â chwsmeriaid Cymraeg gyda pharch a chwrteisi?

* Ac yn bwysicaf oll pam bod pobl efo'r fath agwedd yn cael eu cyflogi mewn Canolfan Gwaith, o bobman, tra bod Cymry Cymraeg digon atebol i gyflawni'r swydd yn ddi-waith, ac yn gorfod wynebu'r fath haerllugrwydd er mwyn chwilio am waith?

08/03/2007

Cliniaduron y Blaid

Pan glywais gyntaf am bolisi Plaid Cymru o gynnig cyfrifiaduron pen glin i bob plentyn ysgol roedd fy ymateb gyntaf yn un a phryderon Peter Black. Ond wedi cael amser i ddwys ystyried yr wyf wedi newid fy meddwl.

Pan oeddwn yn hogyn ysgol, amser maith yn ôl, doedd dim son am gyfrifiaduron. Roedd geiriaduron ar gael i blant ysgol, ac yr oeddwn fel fy nghyfoedion yn chwilio'r geiriaduron am eiriau budron. Roedd gwerslyfrau bywydeg ar gael a byddwn, fel bydd glaslanc, yn llygadrythu ar y lluniau yn yr adrannau am atgynhyrchu. Yn wir roeddwn hyd yn oed yn chwilio'r Beibl am ddarnau anweddus yn y gwersi ysgrythur.

Doedd neb yn y cyfnod cyn gyfrifiadurol yna yn awgrymu gwahardd glaslanciau nwydus rhag perchen ar lyfrau o herwydd y tebygolrwydd y byddent yn eu cam ddefnyddio.

Sgil effaith fy nghamddefnydd nwydus o lyfrau yn fy nglaslencyndod, yw fy mod; yn fy mhenwynni; yn eithaf hyddysg wrth ddefnyddio geiriaduron a gwerslyfrau ac yn fy ngwybodaeth Feiblaidd

Bydd cyfrifiaduron; er gwell, er gwaeth; yn chware rhan hanfodol ym mywydau ein plant. Os ydy'n plant am lwyddo yn y byd mawr technolegol sydd o'u blaenau mae'n angenrheidiol eu bod yn magu'r sgiliau cyfrifiadurol gorau mae'r gyfundrefn addysg yn gallu cynnig iddynt.

Yn ddi-os mae yna beryglon yng nghlwm wrth bolisi'r Blaid o roi gliniadur i bob plentyn ysgol. Yn ddi-os, gan mae plant yw plant, bydd nifer ohonynt yn gam ddefnyddio eu cliniaduron. Ond byddid ymateb i bolisi'r Blaid gydag agwedd Luddite yn gadael ein plant yn amddifad o allu, mewn byd sydd yn tyfu'n fwyfwy ddibynnol ar dechnoleg gwybodaeth yn feunyddiol.

Yr ymateb gorau yw croesawu polisi Plaid Cymru o gynnig gliniadur i bob plentyn ysgol, er mwyn i blant Cymru bod ar flaen y gad yn y frwydr dechnolegol. Ond ei groesawu wrth fynnu bod yr addysg sydd yng nghlwm i'r cynnig yn sicrhau bod pob plentyn yn hollol ymwybodol o beryglon cyfrifiaduron yn ogystal â'u manteision.

English Miserable Old Fart: Plaid's Laptop

06/03/2007

Goleuni a byddardod

Mae llywodraeth Geidwadol Awstralia eisoes wedi cyhoeddi eu bod am anghyfreithloni bylbiau gwynias (y rhai hen ffasiwn). Does gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddim o'r hawl i ddilyn yn union yn ôl traed Awstralia ond mae Ceidwadwyr Cymru am fynd ar yr un trywydd trwy gynnig bylbiau ynni isel yn lle'r rhai gwynias.

Rhaid croesawu'r polisi yma gan Geidwadwyr Cymru ag Awstralia, fel ymgais i ffrwyno cynhesu'r byd. Ond mae gennyf broblem bersonol efo'r polisi.

Rwy'n ofnadwy o drwm fy nghlyw; rwy’n defnyddio lŵp i wrando ar y teledu, y radio a'r ffôn. Mae bylbiau ynni isel yn tarddu ar y lŵp mewn modd sydd yn ei wneud yn amhosibl ei ddefnyddio. Mae cloch fy nrws, fy larwm tân, cloch fy ffôn a fy nghloc codi'r bore oll yn gwneud i oleuadau'r tŷ fflachio. Does dim modd eu defnyddio efo bylbiau ynni isel.

Rwy'n croesawu pob polisi sydd am arafu cynhesu byd eang, ond hoffwn gael sicrwydd bod y bobl sydd yn arddel y bylbiau ynni isel yma hefyd am gefnogi ymchwil bydd yn sicrhau bod pobl drom eu clyw ddim yn cael eu hamddifadu o fywyd cyflawn a diogel o'u herwydd.

English: Miserable Old Fart: Light and Deafness

Gwerthu'r Nwyddau

Er gwaethaf pob beirniadaeth ar Rhodri Morgan, rhaid cyfaddef ei fod yn siaradwr difyr, boed ar y teledu neu wrth areithio'n gyhoeddus. Rwyf wedi clywed Ieuan Wyn, Nick Bourne a Michael German yn siarad yn niweddar mae'n rhaid dweud bod y tri yn blydi boring yn eu trosglwyddiad.

Roedd Nick Bourne yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr bwrw'r Sul yn enghraifft pur o ddyn oedd efo pethau da i ddweud ond heb y ddawn i'w dweud yn dda.

Hanner y frwydr fasnachol yw cael nwyddau da, yr hanner arall yw cael gwerthwyr da. Mae gan y tair gwrthblaid nwyddau gwerth chweil ond ow, maen nhw'n brin o werthwyr.

Saesneg Selling the Goods

01/03/2007

Gwell Cymraeg Cac na Saesneg Da!

Cefais fy magu ar aelwyd Saesneg ei iaith mewn cymdeithas Cymraeg. Rwy'n siarad Cymraeg oherwydd fy mod wedi dysgu Cymraeg. Mae'r dysgu yn rhoi hyder imi (mae gennyf esgus am bob camgymeriad).
Dydy llythyrau fel hwn yn y Western Mail yn cael dim effaith arnaf gan fod gorchudd y dysgwr gennyf:
Sglodion, not chips
SIR
- On February 23, one of your correspondents (with a name which
suggests affiliation to Plaid Cymru and/or the Welsh Language
Society) wrote a letter decrying the use of English words when
speaking Welsh.This, to me, reeks of hypocrisy and bad manners

This is not a new problem and has been very prevalent on that
so-called bastion of the Welsh language known as S4C.

A while ago this station carried a comparatively long series
of programmes about the short life of the Welsh Language Society.

One of these programmes concerned the sign-daubing campaign
where names like Wenvoe, Pentremeyrick and Caernarvon were left
untouched.
The Welsh Language Society activist who was taking part in the
programme spoke of how, in the early days of the organisation,
the office used to smell of "chips" - a product for
which there is a good Welsh name ( which is sglodion).

TUDOR RADCLIFFE
Pontycymer, Bridgend


Mae llythyrau o'r fath yma yn awgrymu mae Cymraeg Pur yw'r unig Gymraeg derbyniol, ac yn gwneud i nifer o Gymry Cymraeg naturiol ymwrthod a'r iaith o dan y teimlad nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.

Mae erthygl yn y Telegraph heddiw yn awgrymu bod yna brychau yn Saesneg Saeson uniaith hefyd, ond prin eu bod am wrthod siarad Saesneg gan nad ydyw eu Saesneg yn ddigon dda.

I achub yr iaith mae gymaint o angen magu hyder Cymry Cymraeg naturiol i ddefnyddio'r iaith yn wael a sydd i annog pobl di Gymraeg i'w dysgu'n dda.

Defnyddio'r Gymraeg sy'n bwysig, nid perffeithrwydd iaith.

Hwyrach nad ydyw dweud Nes i enjoyo bowl o stroberis a crim yn Gymraeg digon da i Mr Radcliffe, ond mae o'n cam gyntaf at ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn well na throi at y Saesneg o dan ormes "Cymraeg Pur" gwrthwynebwyr yr Iaith megis Tudor Radcliffe

Gwell Cymraeg cac na Saesneg Da!