22/02/2007

Post Cyntaf First Post

Yr wyf wedi cael cwynion fy mod yn Blogio heb gynnal Blog.

Yr unig reswm imi agor cyfrif blog oedd er mwyn ymateb i rai o sylwadau hurt yr oeddwn yn gweld ar flogiau pobl llawer pwysicach na fi.

Prin fod gennyf ddim byd pwysig na gwreiddiol i ddweud. Ond mae'n debyg bod blogwyr profiadol yn dymuno talu'r pwyth yn ôl trwy bostio sylwadau cas ar wefan a olygwyd gennyf innau - dyma greu cyfle iddynt, yn unol â'u dymuniad.

Dyma fo yr wyf wedi agor post cyntaf, wedi agor y porth i eraill cael dweud eu dweud ar safle fi. Rhaid imi grafu fy mhen bellach i feddwl am rywbeth i ddweud ar y safle yma.

Cwestiwn i'r rhai mwy profiadol. Blog dwyieithog efo pob post wedi ei gyfieithu ar un dudalen? Neu dau flog un yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg? Be sydd orau?


I have had complaints that I Blog without Blogging myself

The only reason why I opened a Blogger account was in order to respond to points made by people of greater importance than me.

I doubt that I have much to say that is either important or original. But the keepers of the important blogs think that they should have the opportunity to pay me back by posting nasty comment about me on a site that I edit - here is their opportunity! I must now scratch my head to think of something worth saying on this site.

If I may ask a question of the experienced. What is best? One bilingual site, with all my posts translated on the same page? Or two Blogs one in Welsh and the other in English?

2 comments:

  1. Croeso i'r byd Blogio 'go iawn' Hen Rech. Mae teulu dad yn dod o ochrau Dyffryn Ardudwy.

    Ti gyda digon i ddeud ar mae-e, felly dwi'n edrych ymlaen i ddarllen dy flog ;-)

    ReplyDelete
  2. O ran y busnes dwyieithrwydd, fi'n credu fod y 2 ddull yn gwbwl dderbyniol, ond efallai fod dy sustem di yn ei gwneud yn anos i bobl 'anghofio' postio stwff yn y ddwy iaith.

    Gyda'r Blog Annibyniaeth e.e. mae nifer o bobl yn cyfrannu, a gan fod y 2 flog 'annibyniaeth' ac 'independence' arwahan, a rhai o'r cyfrannwys ddim yn siarad Cymraeg, mae'n golygu bod y blog Cymraeg yn cael ei esgeluso ychydig.

    ReplyDelete